Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aur. Mae darlun hardd o hono hefyd yn Dwnn's Heraldic Visitations. Bu mab i'r Iarll, sef Harri VII., o ferch D. ab Ieuan; a'r mab hwnw oedd sylfaenydd yr enw Parry, sef yw hyny, Ab Harri, yng Nghwm Cynon, Gemos, &c. Y mae degau o deuluoedd yn y wlad yn perthyn i'r Ab Harri hwn.

DAFYDD AB LLYWELYN, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd â'r oruchafiaeth yn 1534, ac eilwaith yn 1553.


DAFYDD, IFAN, neu Ifan Dafydd Siencyn, o Gysswch, yn ardal Llangybi, oedd brydydd yn yr oes ddiweddaf. Dywedir iddo ddechreu ei yrfa grefyddol yn y Cilgwyn; ond yn amser y ddadl yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth, efe a ymunodd â chynnulleidfa D. Rowland, yn Llangeitho. Bu yn newid caniadau ag Ifan Tomos Rhys o Lanarth, ar Galfíniaeth ac Arminiaeth. Mae dwy gân o'i eiddo yn Niliau yr Awen gan Ifan Tomos Rhys.


DAFYDD Y COED, bardd enwog a flodeuodd rhwng 1300 a 1340. Mae saith o'i ganiadau yn y Myfyrian Archaiology, Mae yn debyg taw gwr genedigol o ganolbarth Ceredigion oedd; ac y mae tebygolrwydd arall iddo fod yn preswylio am ryw amser yn Llanymddyfri.


DANIEL AB SULIEN ydoedd drydydd mab Sulien Ddoeth, Esgob Ty Ddewi, a chyn hyny o Gôr Llanbadarn Fawr. Yr oedd Daniel yn Archiagon Powys, ac yn wr enwog iawn am ei ddysg a'i ddoethineb. Ceir y cofiant canlynol iddo: — "Yn niwedd y flwyddyn hòno (o gylch 1124) y bu farw Daniel fab Iulyen,[1] Esgob Mynyw, y gwr a oed gymodrerwr y rwg Gwyned a Phowys yn y terfysg a oed rygtunt. Ac nid oed neb a allei gael bei nac aglot arnaw, kanys tangnefedus a charedic oed gan bawp, ac archdiacon Powys oed."


  1. Y mae yn amlwg fod ysgrifenydd yr ymadrodd yma yn barnu mai Iulianus, oedd y cyssefin o Sulgen, ac nis gwn pa fodd idd ei wrthladd, gan fod yr i yn y canoloesoedd, yn cael ei seinio yn j gan y Ffrancod ; ac mewn amryw enghreifftiau, yr oedd y Cymry yn efelychu hyn, mor agos ag y caniatäi anianawd eu hiaith, ac yn rhoddi i'r j sain yr s. A gwelir yn lled aml fod yr g yn dwyn sain yr i, neu y, megys Urbgen, Urien; Kentigern Cyndeyrn, &c.— Carnhuwawc)