Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAVIES, DANIEL, a anwyd ym Mlaenwaen, Penbryn. Gafodd ddysg uchel; a chafodd ei urddo i'r weinidogaeth yn yr Eglwys. Bu yn gurad Troed yr Aur a Brongwyn am tua deng mlynedd ar hugain. Cafodd fywoliaeth Llanfìhangel y Creuddyn amryw flynyddau cyn ei farwolaeth: Bu farw Gorphenaf 3, 1806, yn 54 mlwydd oed. Bu yn cadw ysgol ramadegol flodeuog iawn ym Mhersondy Troed yr Aur am tua deng mlynedd ar hugain. Bu llawer o blant boneddigion y wlad, offeiriaid, a phregethwyr yn derbyn addysg ganddo. Wyr iddo yw T. H. F. Davies, Ysw., Aberceri.


DAVIES, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr yn Sardis, ger Llangadog, a anwyd ym Mhant Bach, plwyf Llangynllo, yn y flwyddyn 1775. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Drefach (gwedi hyny Saron). Daeth yn fuan i bregethu, gan gael cymmeradwyaeth fawr. Cafodd ei urddo yn Sardis a Myddfai. Bu yn dra llwyddiannus. Bu farw Mawrth 2, 1838, yn 63 oed. Cyfrifid ef fel ei gefnder, D. Davies, Abertawy, yn "Gloch Aur y Cymry."


DAVIES, DAVID (Glan Cunllo), a anwyd ym mhlwyf Llangynllo. Bu yn yr ysgol ym Mwlch y Groes, ysgoldy yn ymyl capel yr Annibynwyr yn yr ardal. Rhwng deg a deuddeg oed efe a gafodd gystudd trwm, ac arosodd ol y dolur yn ei glun, fel yr oedd yn gloff trwy ei oes, ac yn analluog i gerdded heb ffyn baglau. Yr oedd yn meddu talentau cryfion ac egni anwrthwynebol. Ymroddodd yn hynod i ddyfod ym mlaen. Bu yn cadw ysgol ym Mhencader, Penuel, Caio, Llansawel, a Llangadog, a rhoddid iddo lawer o glod fel ysgolfeistr. Talodd sylw i lenyddiaeth, barddoniaeth, a rhyddiaith gyffredinol. Daeth yn fardd rhagorol, ac ennillodd lawer iawn o wobrau. Yr oedd ei egni yn y ffordd hon tu hwnt i neb a welsom erioed. Y wobr ddiweddaf a ennillodd oedd am "Draethawd Bywgraffyddol a Beirniadol ar Iolo Morganwg," yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1867. Gwelsom ef yn yr eisteddfod, ac edrychai yn wael iawn: dywedai ei fod wedi ffarwelio â bywyd — ei fod yn anobeithiol o wella. Gorfu iddo ddychwelyd adref cyn cael derbyn y wobr. Dywedid ei fod wedi ysgrifenu ar rai o'r prif destynau heb law hyny,