Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

megys "Owain Glyndwr" &c., ac ei fod yn sefyll yn uchel iawn yn y gystadleuaeth. Ar ol dihoeni yn hir, dan bwys ergydion dyfal y darfodedigaeth, bu farw Tachwedd 17, 1867, yn 30 mlwydd oed, gan adael gwraig a phlant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn ei wynebpryd yn rhyfeddol o siriol, a dau lygad glas, bwmpi ar dor y croen, yn edrych yn llawn sirioldeb ac yni meddwl. Pe buasai y gwr talentog hwn yn cael oes o drigain a deg, nid oes modd dirnad faint fuasai wedi gyfansoddi. Gobeithio y dygir allan gyfrol o'i ganiadau. Gorwedda ym mynwent Llangadog, yn Ystrad Tywi. Heddwch i'w lwch.

DAVIES, DAVID, genedigol o ardal Horeb, Llandyssul. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. S. Griffiths, ac wedi hyny yn Neuaddlwyd. Cafodd ei urddo yn Nhai Hirion, Mor- ganwg. Priododd ferch y Parch. S. Griffiths, Horeb. Symmudodd i Glyn Taf, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth. Bu farw Gorphenaf 16, 1851, yn 43 mlwydd oed.


DAVIES, DAVID, a aned yn y Geuffos, Llandyssilio Gogo. Cafodd fanteision dysgeidiaeth pan yn ieuanc. Bu yn yr ysgol gyda D. Jones, Dolwlff. Ymunodd â'r Bedyddwyr. Daeth yn bregethwr. Bu yn cadw ysgol, gan ddwyn ym mlaen ychydig fasnach. Yr oedd yn wr tra llafurus. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Bu yn briod deirgwaith; a dy wedir iddo gael tair gwraig dda, yr hyn sydd yn beth lled hynod. Gadawodd, yn ei ewyllys, i eglwys ei ofal, Gorff o Dduwinyddiaeth Dr. Ridgeley, ac "Esboniad" Matthew Henry ar y Testament Newydd, yng nghyd â thyddyn bychan, gwerth tua phedair punt y flwyddyn, at gynnal Ysgol Sul yn Aberduar dros byth. Bu farw Hydref 11, 1826, yn 88 mlwydd oed.


DAVIES, DAVID PETER, a aned yn Storhows Wen, Traethgwyn, ger y Cai Newydd, lonawr 9, 1785. Aeth i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Bu yn weinidog Undodaidd yn Ripley, Duffield, a Milford. Cyhoeddodd History of Derbyshire, yn 1811: dwy gyfrol, yn cynnwys 717 o du- dalenau. Yr oedd yn fab chwaer i'r Parch. David Peter, Caerfyrddin. Bu farw yn y dref hòno Ion. 13, 1844.


DAVIES, EVAN, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanedi,