Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydoedd fab Mr. James Davies, Cilgwyn. Ganwyd ef yn Nyffryn Llynod, plwyf Llandyssul. Enw ei fam oedd Mary, yr hon a fu fyw flynyddau yng Nglyniar, plwyf Llanllwni, wedi claddu ei phriod. Dygwyd Mr. Davies i fyny yn athrofa Caerfyrddin, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. Jenkin Jenkins. Cafodd ei urddo yn weinidog yn Llanedi, o ddeutu y flwyddyn 1776. Yr oedd yn dwyn y cymmeriad o ddyn hawddgar a duwiol iawn, yn bregethwr gwresog a melus, ac yn weinidog ffyddlawn a llafurus. Bu yn foddion i sefydlu achos ac adeiladu addoldy yn Llanedi; efe ddechreuodd yr achos sy yn awr ym Mhenbre, Bethania, Cross Inn, a Chydweli, a hyny dan lawer o anfanteisîon a gwrthwynebiadau. Efe hefyd fu yn offeryn i ffurfio eglwys ac adeiladu addoldy Capel Als, Llanelli. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn o ddeall cryf ac ysbryd didramgwydd; ac ni bu neb yn ei oes yn fwy gweithgar nag ef, fel y gwelir ol ei lafur yn y cylch hwnw o'r wlad yn awr. Bu farw o'r darfodedigaeth, Ebrill 12, 1806, yn bymtheg mlwydd a thrigain oed, wedi treulio deng mlynedd a deugain yn y weinidogaeth.— Hanes Ymneillduaeth

DAVIES, EVAN, gweinidog yn y Cilgwyn, oedd enedigol o'r ardal rhwng Llechryd ac Aberteifi. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llechryd. Cafodd addysg athrofaol. Cafodd ei urddo yn y Çilgwyn, yn y flwyddyn 1726, a bu yno yn cydweinidogaethu â Philip Pugh hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn 1744; ond dywed rhai iddo farw yn 1737.


DAVIES, EVAN, sef yr ail o'r enw yn y Cilgwyn, ydoedd enedigol o ardal Llanbedr. Dygwyd ef i fyny yn athrofa Hoxton, dan olygiaeth Dr. Ridgeley a Mr. James Eames. Bu yn gweinidogaethu yn Hwlffordd ; a thra yno, bu yn athraw yr Athrofa Henadurol yn y dref, yr hon a symmud- wyd yno er ei fwyn ef. Ymadawodd â Hwlffordd yn y flwyddyn 1743, ac aeth i'r Cilgwyn i gynnorthwyo y Parch. P. Pugh. Dywedir iddo fod yn cadw ysgol enwog yn y Cilgwyn; hyny yw, dwyn ym mlaen yr hen ysgol oedd yno. Symmudodd i Lanybri i gymmeryd gofal yr eglwys ymneillduol yn y lle hwnw. Daeth yr Athrofa