Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Henadurol yn ol i Gaerfyrddin, a bu Mr. Davies yn ei dwyn ym mlaen yno gyda'r Parch. S. Thomas. Yn ganlynol i helynt annymanol & gymmerodd le mewa etholiad aelod seneddol yn y dref, aeth Mr. Davies i yohydig drallod: daeth swyddog gwladol o'r enw Grace a gwarant ato up boreu Sul cyn iddo godi. Mynegodd gwraig y ty yr helynt iddo. “Wel," ebai ef, “bûm lawer gwaith yn gofyn am gynnorthwy yn y fan hon i fyned. drwy waith y dydd; ond bellach, dyma fi wedi gorphen fy ngwaith yma.” Aeth allan drwy ddrws y cefn, a ffwrdd ag ef i Loegr.[1] Bu yn weinidog diwyd yn Billericay, yn Essecs, hyd ei farwolaeth, Hydref 16, 1770. Ei oedran oedd 76.

DAVIES, EVAN. Gwernfedw, oedd fab Timothy Davies, gweinidog yn y Cilgwyn. Yr oedd yn nai i'r E. D. blaenorol. Bu yn gweìnidogaethu yn y Cilgwyn a'r cylchoedd o'r flwyddyn 1771, am tua 46 o flynyddau. Yn ei amser ef, meddir, yr adeiladwyd Capel y Cribyn.


DAVIES, EVAN, gynt o Richmond, a aned yn y flwyddyn 1805, yn Hengwm, plwyf Lledrod. Wedi marwolaeth ei fam, yr hyn a ddygwyddodd pan yr oedd efe tua thair blwydd oed, ei daid, yng nghyd â'r plant ereill, a ymsymmudasant i Gaerludd; eithr efe a adawyd dan ofal ei fodryb, yr hon oedd yn byw yn y plwyf nesaf Gwnaed ef yn egwyddorwas gyda thrafnidwr yn y gymmydogaeth; ac ar derfyniad ei dymmor, aeth yntau hefyd

  1. Dywedir hefyd mai gadawiad cyfeillion Mr. Davies â'r athrofa, o herwydd fod ei gydathraw yn Ariad, oedd yr achos o'i ymadawiad.