grefyddol dda ym moreu ei oes. Bu farw y gweinidog yn fuan ar ol ei dderbyniad i'r Eglwys. Ymddengys fod y gwr ieuanc yn mynwesu awydd gref, ond dirgelaidd, am fyned i'r weinidogaeth. Ym mhlith y gweinidogion a wasanaethent y pryd hyny yng Nghapel Guildford-street, yr oedd y Parch. Daniel Evans, Mynydd Bach, ger Abertawy, yr hwn a gymmerai y fath ddyddordeb mewn dynion ieuainc gobeithiol, fel yr anturiodd Evan Davies osod o'i flaen yn eglur ei holl ddymuniadau a'i amgylchiadau. Mewn canlyniad, dygodd Mr. Evans ei achos o flaen yr eglwys, gan argymhell y blaenoriaid i roddi pob cefnogaeth a chymhorth yn eu gallu i bob dyn ieuanc yn eu plith ag arwyddion gobeithiol arno, yn gymhwys i addysgu ereill hefyd, er ymgymmeryd â gwaith pwysig y weinidogaeth Gristionogol. Yn fuan ar ol hyn, efe a gymmeradwywyd i athrofa y Neuaddlwyd, dan arolygiaeth a gofal y Parch. Dr. Philips, lle y treuliodd ddeunaw mis dan ei ofal efrydiol. Pryd hyn, cynnygiodd am gael derbyniad i goleg Seisonig trwyadl; ac felly efe a lwyddodd yn y flwyddyn 1829 i gael derbyniad i'r Western Academy, y pryd hwnw yn Ecseter, dan lywyddiaeth y diweddar Barch. Ddr. George Payne. Bu ei yrfa golegol yn dra llwyddiannus. Yr oedd yn astudiwr caled a diwyd, ac efe a gynnyddodd yn gyflym yn yr holl gangenau addysgiaeth a berthynent i'r sefydliad. Efe a safiai yn uchel yng nghyfrif ei gydfyfyrwyr, ac yng nghyfrif y Dr. Payne, yr hwn a goleddai dybiaeth uchel am dano, o ran ei nodweddiad a'i deithi meddyliol. Sefydlodd yn Great Torrington, yn North Devon; cylch llafurwaith boreuol y seraphaidd John Howe. Ni bu ei arosiad yma ond byr, gan ei fod wedi penderfynu ymroddi i wasanaeth y genadaeth dramor. Wedi cael derbyniad fel y cyfryw gan Gymdeithas Genadol Caerludd, efe a urddwyd yn Ebrill, 1835, yng Nghapel Wickliffe, yn genadwr i'r Chineaid, ac efe a anfonwyd i Penang. Yma efe a ymgyflwynodd yn ddidor i astudio y Chinaeg, ac a sefydlodd ysgol Gristionogol gref er mwyn y plani brodorol, a bu ei hyfforddiadau a'i bregethau yn dra buddiol ac adeiladol i'r swyddogion a'r milwyr Seisonig yn Penang. Dygwyddodd yma rai enghreifftiau hynod o'i ddefnyddioldeb
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/40
Gwedd