Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y rhai, pan orfodwyd ef i ymadael â'r lle ym mhen pedair blynedd o herwydd methiant iechyd, a gynnyrchent ryw adgofion hyfryd yn ei feddwl. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr yn y flwyddyn 1840, efe a gymmerwyd i wasanaeth y gymdeithas genadol, er ymweled â gwahanol fanau o'r wlad, fel dirprwywr i amddiffyn a dadlu ei hawliau; ac yn 1842, efe a benodwyd yn olygyddy Boys' Mission School yn Walthamstow. Yn 1844 efe a ymadawodd oddi yno i Richmond, Surrey, er ymgymmeryd ag arolygiaeth yr Eglwys Gyunullidfaol yno; ac efe a barhaodd yn y fugeiliaeth yn Richmond am dair ar ddeg o flynyddau. Wrth roddi ei weinidogaeth i fyny yma, efe a anrhegwyd gan y gynnulleidfa â phwrs yn cynnwys 200p., fel arwydd o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato. Yn Ionawr, 1857, efe a symmudodd i Heywood, yn Lancaster, lle nid arosodd ond dwy flynedd: oerder yr hinsawdd yn y man gogleddol hwn a'i rhybuddiai ef a'i deulu mai doethach fuasai iddynt ymsymmud i rywle mwy heuliog yn y deheudir. Felly, efe a'i deulu a benderfynasant ddychwelyd i Gaerludd, lle y trigiannai lluaws o'i gyfeillion; ac yn y diwedd efe a ymsefydlodd yn Dalston, lle y sefydlwyd ysgol rianod gan ei wraig a'i ferched, yng ngorchwylion yr hon hefyd yr oedd yntau yn cymmeryd rhan, gan bregethu un flwyddyn yn Hackney, ac yn achlysurol yn cyflenwi manau ereill yn y gymmydogaeth. Fu yn aros yn Dalston dros rai blynyddau ; eithr yn haf 1863, efe a symmudodd i Homsey, lle y cafodd brawf llymdost ym Mai, 1864, trwy farwolaeth ei unig fab oloesol, yr hwn ddygwyddiad a effeithiodd yn fawr ar ei gyfansoddiad; o blegid ar y 18fed o'r mis canlynol yntau ei hun a "hunodd yn yr Iesu." Claddwyd ef a'i ddau fab ym meddrod y teulu yng nghladdfa Abney Park. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch. O ddiwedd y flwyddyn 1863 hyd o fewn ychydig i'w farwolaeth, efe a ddyoddefodd lawer oddi wrth y gewynwst. Ar gynghor y meddygon, gwnaeth ef a Mrs. Davies brawf o awyr y môr yn Llanstephan. Bu ychydig yn well; ond er hyny arosodd cymmaint methiant yn ei gorff, fel nad oedd ganddo ddim blas at ymborth. Nid oedd Mr. Dayies yn anenwog fel awdwr, fel y profa y gweithiau canlynol o'i