nad ydynt wedi eu cyhoeddi yng ngwaith y bardd gan yr enwogion Gwallter Mechain ac Ioan Tegid. Y mae hefyd yn cynnwys amryw ddarnau o waith Iago ab Dewi ei hun. Yr ysgriflyfr arall sydd yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith. Nid ydyw dechreu na diwedd y gyfrol hon ar glawr. Y mae peth o hono wedi ei ysgrifenu tua'r blynyddau 1715-17. Ymddengys taw cyfieithad ydyw un traethawd, wedi ei barotoi i gael ei argraffu yn yr Amwythig, gan Sion Rhydderch. Y mae ynddo hefyd draethawd dammegol am y chwil, yr eryr, y llew, y cadnaw, y frân, y ddafad, a'r llygoden; ac y mae cymhwysiad y dammegion yn hynod o ddyddorgar. Cafodd yr ysgrif hon ei dyddìo Mai 24, 1711, yn Llanllawddog. Y mae ynddo draethawd arall, yn llawysgrifen ardderchog Iago ab Dewi; ond y mae y wynebddalen ar goll; y mae y rhagymadrodd wedi ei ysgrifenu gan Sîon Rhydderch yn yr Amwythìg, ac wedi ei dyddio Medi 23, 1717. Mae un tudalen hefyd wedi ei ysgifenu gan Sion Rhydderch, a'r teitl sydd uwch ei ben ydyw, "Ymddyddan rhwng Cardotyn a Duwinydd." Ar dudalen sydd yng nghanol y llyfr, y mae eto gan Sion Rhydderch, yr argraffydd, lythyr Seisonig, fel pe byddai yn dychwelyd y copi hwnw yn ol, gan geisio un arall. Y mae Sion Rhydderch yn y llythyr yn son am ryw uncle James, a thebyg mai Iago ab Dewi oedd yr ewythr hwnw. Efe a gyfieithodd chwech neu saith o lyfrau o'r Seisonig i'r Gymraeg, ym mysg y rhai y mae Meddyliau Nellduol ar Grefydd, gan yr esgob Beveridge, 1717; Tyred a Groesaw, gan J. Bunyan, 1719. Y mae Meddyliau Neillduol ar Grefydd wedi ei gyflwyno i'r "urddasol a'r anrhydeddu; Harri Llwyd o Lanllawddog, ysgwier, a sersiant o'r gyfraith." Y mae y cyflwyniad wedi ei ysgrifenu gan y Parch. Moses Williams, yn Llundain, ar y "seithfed o idiau Rhagfyr, 1716." Mae englynion i'r llyfr gan "Samuel Williams, person Llangynllo, yng Ngwynionydd," Theophilus Evans, a Siencyn Thomas o'r Cwmdu. Yr ŷm yn ddiweddar wedi darllen yr hen lyfr rhagorol hwn, ac wedi codi rhes o eiriau ag sydd yn anarferedig yn yr oes hon. Yr ydym yn credu na welsom brydferthach ysgrifen erioed nag eiddo Iago ab Dewi; y mae yn bleser dirfawr i edrych
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/43
Gwedd