Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei lawysgrfen. Darlunir ei nodweddiad gan ei gyfaill a'i gymmydog, Christmas Samuel, gweinidog Pantteg, fel y canlyn:— "Iago ab Dewi, y cyfieithydd enwog, a fu farw ar ol deunaw wythnos o gystudd, a chladdwyd ef yn Llanllawddog, ar y 27fed o Fedi, 1722. Yr oedd yn ddyn nodedig iawn; yn ddyn o ychydig eiriau, ond o wybodaeth dra helaeth; yn ddyn o fuchedd dda, ac yn hen Gristion profedig. Nid oes raid i mi ddywedyd ychwaneg am dano—ei weithredoedd a'i canmolant yn y pyrth." Yr oedd y gwr tra rhagorol hwn, o werth mawr yn ei oes, a gwasanaethodd ei genedlaeth yn fyddlawn.

DAVIES, JAMES, Penmorfa. Ganwyd y gwr parchus hwn Rhagfyr 22, 1800, ym Mlaenhoewnant Isaf, ym mhlwyf Penbryn. Yr oedd ei dad yn ysgolfeistr yn yr ardal. Ym mis Mehefin, 1822, efe a ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Cai Newydd; ac ym mhen tua saith mlynedd cafodd ei gymhell i bregethu. Gan fod ei dad yn ysgolfeistr, yr oedd wedi cael gwell manteision dysg na'i gyfoedion. Yr oedd yn sefyll yn lled uchel ei gymmeríad fel Cristion a phregethwr. Bu farw Ebrill 14, 1853.


DAVIES, JAMES, gweinidog yn Abermeirig a Chiliau Aeron, oedd ganlyniedydd yr hybarch Philip Pugh. Yn y flwyddyn 1743 urddwyd Mr. Davies i gyflawn waith y weinidogaeth yn Crofft y Cyff, i fod yn gydweinidog â Mr. Pugh yn y Cilgwyn ac Abermeirig, a lleoedd ereill y llafurient ynddynt. Yr oedd yn dad i Evan Davies o Lanelli, am ba un yr ydym wedi crybwyll yn barod, a Daniel Davies, gynt o Ynysgau, Merthyr. Bu wedi hyny yn cynnorthwyo y Parch. Jobn Lewis, Pencader. Dychwelodd wedi hyny i Abermeirig; ac y mae yn debyg mai un o'r wlad hono oedd yn enedigol. Ryw amser cyn ei farwolaeth efe a symmudodd i Balas Cilcenyn, lle y bu farw.


DAVIES, JENKIN, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Nhwrgwyn, a anwyd ym mhlwyf Llandyssilio Gogo, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd Mr. Davies yn amlygu llawer iawn o alluoedd meddyliol pan yn blentyn. Anfonwyd ef ar y cyntaf i'r ysgol yn Llwyn Dafydd, ac wedi hyny i