Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aberteifi; ac wedi treulio twysged o amser diwyd yn nhref y sir, efe a aeth i'r ysgol i Gai Newydd. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1825. Pregethodd yn y flwyddyn 1840, dri chant a phymtheg o weithiau, ac yn y flwyddyn 1841, bedwar cant o weithiau. Farw Awst 10, 1842. Yr oedd Mr. Davies yn cael ei ystyried yn ddyn o alluoedd meddyliol llawer mwy na'r cyffredin, ac yr oedd y rhai oedd yn ei adnabod oreu yn dywedyd nad oedd y wlad erioed wedi deall faint dyfnder ei dalentau a'i wybodaeth. Yr oedd fel Cristion yn syml a gostyngedig. Gellir dywedyd am dano, ei fod yn ddyn mawr a rhagorol ym mhob ystyr.

DAVIES, JOHN, o'r Pantglas, yn ardal y Cilgwyn, a ddygwyd i fyny i'r weinidogaeth, ac a gafodd addysg golegol. Bu am ryw amser yn pregethu yn y Cilgwyn a'r cylchoedd. Ymsefydlodd yn Llundain. Bu yn cynnorthwyo y Dr. Abraham Rees. Casglodd gyfoeth dirfawr, yr hwn a ddaeth, ar ol ei farwolaeth, i deulu Penlan, Llangybi, ac un Ann Evans, ar fynydd Llanfair.


DAVIES, JOHN, D.D., diweddar o Gateshead, Durham, a anwyd ym mhlwyf Llanddewi Brefi, Rhagfyr, 1790. Derbyniodd ei addysg ar y cyntaf mewn ysgolion yn y gymmydogaeth hono, ac wedi hyny efe a roddwyd dan ofal yr hyglod Barch. Eliezer Williams, periglor Llanbedr. Ar ol treulio amryw flynyddau yn yr ysgol, a than addysg bersonol, efe a symmudodd i Loegr yn lonawr, 1815, ac a ddaeth yn gynnorthwywr mewn ysgol gorgyfrnaol (prebendal ). Bu am rai termau yn Rhydychen ond wedi hyny efe a symmudodd i Gaergrawnt, ac a gymmerodd ei radd o B.D. yn y flwyddyn 1830, a'r radd o D.D., yn 1844. Ar ol gwasanaethu yr Eglwys yn St. Pancras, Chichester, cafodd ei anrhegu â bywoliaeth Gateshead gan Esgob Durham yn 1840, ac a wnawd yn Gynon Anrrhydeddus Durham yn 1853. Bu farw ar yr 21fed o Hydref 1861, yn Ilkley Wells, yn swydd Gaerefrog, ym mha le yr oedd yn aros er lles ei iechyd. Yr oedd Dr. Davies yn berchen galluoedd cryfion, ac egni penderfynol i feistroli pob peth ag y buasai ei law yn ymaflyd ynddo. Tra yn yr ysgol yn Llanbedr yr oedd wedi meistroli Horace gymmaint, fel