Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gallaeai adrodd y cyfan o hono heb gymhorth llyfr; ac, o herwydd hnny, efe a gyfenwid gan ei gyd ysgolheigion ac ereill yn "Horace Bach." Daeth y Dr. Davies yn ysgrifenydd ac awdwr enwog. Ei waith mawr cyntaf An Estimate of the Human Mind, &c., a gyhoeddwyd yn 1829, mewn dwy gyfrol wythplyg; a daeth ail argraffiad o'r unrhyw allan mewn un gyfrol fiiwr yn 1847. Gyhoeddodd hefyd The Ordinances of Religion, mewn un gyfirol; First Impressions, a Series of Letters from France Switzerland and Savoy written in 1834, addressed to the Rev Chancelor Raikes, Cyfansoddodd hefyd amryw weithiau llai, ac amryw lyfrynau o bregethau. Mab iddo ydyw yr enwog Barch. John Llewelyn Davies, o Lundain : neiaint iddo yw'r Parch. Samuel Jones, Llangunnor; a'i frawd, John Jones, Ysw., Maes y Grugiau, Gaerfyrddin.

DAVIES, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr ym Mear, Gwlad yr Haf, a anwyd ym Mhen yr Allt, plwyf Llandyssu Bu dan ofal y Parch. D. Davis, Gastell Hywel, yn derbyn dysg am dro, ac wedi hyny yng Ngholeg Henadurol Gaerfyrddin am bedair blynedd. Ystyrid ef yn un o oreuon y coleg ar y pryd. Bu farw Awst 8, 1832, yn 30 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn Glastonbury, lle y gweinidogaethai.


DAVIES, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Daventry, a anwyd mewn pentref ger Ilaw Aberystwyth. Pan yn faban symmudodd ei rieni gydag ef i Woolwich. Dechreuodd ei yrfa grefyddol dan weinidogaeth y Parch. Dr. Jones, Bangor. Daeth yn fuan yn gynnorthwywr yn ysgol y Parch. Mr. Bickerdike, yn Woolwich. Pan yn un ar bymtheg oed, aeth i ysgol Llanfyllin, dan ofal y Dr. Lewis. Ar ol gorphen ei efrydiaeth yno, bu yn athraw yn nheulu G. George Ysw., Lan, sir Gaerfyrddin. Gafodd ei urddo yn Newcrofis, Deptford; ac yn 1826 daeth yn weinidog i Daventry. Bu farw yn y flwyddyn 1857. Gyfrifìd ef yn wr o dalentau dysglaer, yn ysgolor da o fywyd Ilafurus a diargyhoedd, ac yn Gristion didwyll.


DAVIES, JOHN LLOYD, diweddar o Flaendyffryn, a anwyd yn Aberystwyth. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin eu hamgylchiadau yn cadw gwestty yn y dref.