Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymrwymodd yn freintwas i John Walters, Ysw., cyfreithiwr, Castell Newydd Emlyn, wedi hyny, J. W. Philipps, Ysw., Aberglasney, a chyn hir, ymrestrodd yn gyfreithiwr ei hun. Yn y cylch hwnw, daeth yn adnabyddus â Mrs. Stuart, gweddw y Milwriad Stuart, o Gaerfyrddin; a thrwy ei ymddangosiad hardd, a'i ymddygiad boneddigadd, ennillodd sylw a serch y foneddiges, a'r canlyniad fu iddynt briodi. Merch oedd Mrs. Stuart i John Lloyd, Ysw., o Allt yr Odyn, ac Elizabeth ei wraig, yr unig un o'u un ar hugain o blant a oroesodd eu mam. Cyn hir daeth ystâd helath a chryno Gallt yr Odyn, rhan helaethaf o hen gyfoeth Llwydiad Castell Hywel, yn feddiant i Mrs. Lloyd Davies. Bu iddynt un plentyn, yr hwn a briododd, gan gael dau o blant ; ond bu farw o flaen ei dad. Priododd Mr. Lloyd Davies yr ail waith â boneddiges o Loegr, yr hon fu farw tua thair wythnos o'i flaen. Bu am ryw gymmaint yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Ceredigion, a thynodd sylw y ty a'r wlad ar unwaith at yr angen o gael porthladd diangol yn Aberteifi. Dangosodd yn yr amser byr hwnw, fod ynddo fwy o gymhwysder seneddol na holl gynnrychiolwyr dystaw Cymru. Fel ynad heddwch, nid oedd modd cael ei debyg. Gwyddai y gyfraith, a gwyddai sefyllfa y wlad. Gwnaeth fwy na neb at wella y ffyrdd yn Nyfed. Efe a wnaeth fwyaf at gael rheilffordd o Gaerfyrddin i Landyssul Bu farw Mawrth 21, 1860, yn 59 oed. Mae ar ei ol ddau o blant o'r ail wraig. Mae yr ystâd yn eiddo mab ei etifedd, o'r wraig gyntaf. Mae Eglwys newydd St. loan, Llandyssul, a adeiladodd ar ei draul ei hun, yn golofn o'i haelfrydedd a'i aidd eglwysig.

DAVIES, JOHN P., gweinidog y Bedyddwyr yn Nhredegar, Gwent, a anwyd ym Mhersondy Bangor ar Deifi, Mawrth 12fed, 1786. Yr oedd yn fab i'r Parch D. Davies, offeiriad Bangor a Henllan. Yr oedd ei dad yn ysgolor a phregethwr da. Cafodd John Davies addysg weddol dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, yn y gymmydogaeth. Yr oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn ewythr iddo, brawd ei dad; ac ewythr arall iddo, brawd ei dad, oedd y Parch. M. Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Ymaelododd Mr. Davies