Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weled yn ei sylwadau arni yn Seren Gomer, yn y blwyddyn 1825, a'i amddiffynad iddi yn 1826; ac y mae ei Gynllun o Eiriadur Cymreig yn y Seren yn 1824, yn brawf digonol o'r peth. Treuliodd gryn amser wrth ddarpariadau ar gyfer geiriadur Cymreig, sef Cymraeg oll Ysgrifenodd tuag ugain llen o hono. Nid oes gwybodaeth pa peth ddaeth o'r llawysgrif. Yn ei ysgrifeniadau ar bynciau crefyddol, ac yn enwedig yn y papyrau a adawodd i'w cyhoeddi, y rhai ydynt o flaen y cyhoedd yn gyfrol bum swllt, cenfydd y darllenydd myfyrgar y myfyriwr duwinyddol yn chwilio i berthynasau gwahanol ranau y gwirionedd efengylaidd, yn gosod allan wir ganlyniadau gwahanol egwyddorion, gan osod y rhesymau a'r profion ysgrythyrol ger bron, a'u cymhellant i dderbyn a chredu ei olygiadau, y rhai a goleddai mor galonog, ac a amddifiynai mor gadarn bob amser. Yr ydym yn ddiweddar wedi darllen traethodau y Parch. J. P. D., yng nghyd â'i gofiant, dan olygaeth D. R. Stephen, ac yn cael ei fod fyny â'r clod a roddir iddo. Y mae llawer o draethodau rhagorol o'i eiddo yn Seren Gomer y Gwyliedydd, &c.

DAVIES, JOSHUA, diweddar beriglor Llanybydder, a aned ym Mhant y Gwenith, plwyf Bettws Ifan. Bu yn ysgol flodeuog Castell Hywel. Bu yn beriglor Llanybydder a 43 mlynedd, Llanwenog 41 mlynedd, a churadad parhäus Battle, Brycheiniog, 51 mlynedd. Yr oedd hefyd yn goberiglor Eglwys Golegol Aberhonddu, deon gwladol adran orllewinol Llangadog, ac yn un o arholwyr Cymreig' yng Ngholeg Dewi Sant. Bu farw Awst 22, 1845, yn 83 mlwydd oed. Daeth Mr. Davies i fyny yn hollol trwy ei alluoedd a'i gallineb ei hun. Nid oedd yn meddu un cyssylltiad perthynasol i'w gynnorthwyo. Merch Ffynnon Benbwllaid, tyddyndy ger llaw ei le genedigol, oedd Mrs. Davies. Yr oedd y diweddar Barch. D. J. Evans, periglor Llandygwydd, yn ŵyr iddo.


DAVIES, LEWIS, ydoedd drydydd mab i John Davies, Ysw., o'r Crugiau, plwyf Llanbadarn Fawr, lle ganed ef yn y flwyddyn 1777. Ymunodd â'r fyddin yn 1791, yn fanerwr y 31 gatrawd, lle yr oedd ei frawd John Maurice Davies yn gadben; ac yr oeddynt gyda'u gilydd yn y