Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddin ar y Cyfandir yn y flwyddyn 1794, Yn 1796 yr oedd Mr. Lewis Davies gyda Syr Ralph Abercrombie yn yr India Orllewinol, a chafodd ei glwyfo wrth gymmeryd St Lucia, pan dderbyniodd raglawiaeth. Dyoddefodd lawer yn y lle hwn oddi wrth y clefyd melyn, effeithiau yr hwn a'i holloI analluogodd dros ddeuddeg mis. Yn 1799 cafodd gadbeniaeth, a gwasanaethodd o dan Ddug Caerefrog yn Holland, lle y bu yn cymmeryd rhan yn y frwydr gyntaf a'r ail yn Bergen, ac ym mrwydr y 6fed o Hydref, yn y flwyddyn hòno, Wedi hyny bu yn gwasanaethu ar dueddau Ffrainc, a chyda Syr J. Pulteney yn Ferrol, a thair gwaith i fyny ym Môr y Canoldir. Yn y flwyddyn 1804 daeth yn uwchgadben y 36 gatrawd, trwy bryniad. Yn 1806 efe a wasanaethodd gydag Arglwydd Cathcart yn Hanoyer; ac wedi hyny gyda'r Maeslywydd Cyffredinol Crowford ym Mhenryn Gobaith Da, o'r lle y gorfuwyd ef i ddychwelyd yn ei ol gan afiechyd. Yn nesaf, bu gyda Syr Arthur Wellesley ym Mhortugal, ym mrwydrau Brillis, Roliça, a Vimieira. Yr oedd hefyd gyda Syr John Moore yn yr Yspaen, yn y brwydrau ger Lugo a Corunna. Gwasanaethodd wedi hyny gyda larll Chatham yng ngwarchäedigaeth Flushing, ac yn cymmeryd ynys Waldieren. Yn lonawr 7, 1812, efe a hysbyswyd yn rhagfilwriad y 36 gatrawd; ac ym Mawrth canlynol, gorchymmynwyd iddo gymmeryd llywodraethiad y gatrawd hòno, dan Arglwydd Wellington, lle yr ymenwogodd yn fawr, canys cafodd yr anrhydedd o lywodraethu y rhychwyr yn yr ymosodiad, a chymmeriad caerfeydd Sant Gaetana, La Mercede, a mynachdy Sant Vinceut, yn ninas Salamanca. Llywodraethodd y dosbarth isaf yn y 36 gatrawd yn y frwydr fawr a ddilynodd, lle y derbyniodd fathodyn. Yr oedd yn y gwarchae ar Burges, wrth droi yn ol o'r hwn le tua Phortugal ymaflodd poen cryd y cymmalau mor llym ynddo ag a'i difuddiodd o nerth ei goesau, ac o ganlyniad analluogwyd ef i wasanaethu mwy. Ym Medi, 1806, gwnawd ef yn gydymaith o Anrhydeddus Urdd Milwrol Caerbaddon; ac yn fuan cyrhaeddodd y gradd o Uwch Faeslywydd. Wedi dychwelyd o'r orynys, efe a dreuliodd weddill ei oes yn ei