niweidio, a chadw botas newydd danllifaid am dani ar ol yr anffawd, yr hyn a ganlynodd mewn gorfodiaeth i'w thori ffwrdd. Ar ol hyny, adwaenid ef gan lawer wrth yr enw "Rhys y Glun Bren." Gofynai gwr dyeithr gweddol barchus iddo unwaith, pa beth oedd wedi gael ar ei glun? "O," ebai yntau, "nid yw hyny ddim pwnc o iachawdwriaeth i chwi."
Teithiodd lawer iawn ar hyd a lled y wlad i bregethu. Aeth i gymmanfa ym Mrycheiniog, ond gan iddo fethu cyrhaedd yn brydlawn, bu yn gyfyng arno am letty; ond addawodd un gwr cyfrifol y gwnelai rywbeth iddo. Felly trefnwyd gwely iddo mewn ystafell fechan dan y grisiau. Yr oedd yn methu yn lân â chysgu trwy gydol y nos gan fod y morwynion yn ol ac ym mlaen yn darparu bwyd erbyn ciniaw dranoeth. Ond rywbryd cyn y boreu, syrthiodd un o'r merched ar hyd y grisiau, a gwaeddai yntau allan, " Gogoniant, dyna'r d—l â'i faglau i fyny." Yr oedd wedi cael gwerthiant Llythyr y Gymmanfa yn etifeddiaeth, a byddai yn teithio gwlad a gorwlad i'w werthu; ac yr oedd yr olwg arno yn nrysau y capeli, neu byrth y mynwentydd, yn ddigrif dros ben. Ni roddai, meddai, lonaid gwniadur o soeg am grefydd neb, os na phrynent Lythyr y Gymmanfa.
Arferai bregethu yn ardal Aberteifi. Sylwai boneddwr ag oedd â'i balas ar fin y ffordd ar yr hen wr a'r glun bren yn myned heibio; ond y mae yn debyg nad oedd efe wedi sylwi dim ar y boneddwr. Un tro cyd-deithiai gydag ef am chwarter milltir, gan achwyn ar y gwres, a bod syched arnynt. , "O," ebai y boneddwr, "ni awn i mewn i'r palas yma, y mae yma bobl garedig." Felly yr aethant. Ni wyddai Rhys yn y byd pwy oedd y boneddwr. Eisteddodd pob un honynt mewn ystafell fechan ger y gegin. Cododd y boneddwr, ac agorodd gwpwrdd, gan gymmeryd costrel o gwrw, gan gynnyg gwydraid i Rhys. Gwaeddai Rhys allan "Y dyn ofnadwy, a ddaethym yma i gael fy nal fel lleidr" Ond er cymmaint a waeddai, ni chymmerai neb nemawr sylw. Aeth Rhys allan yn llawn helbul, gan waeddi a gweddio; ac elai y gwr dyeithr allan hefyd, gan gymmeryd costrel arall yn ei god. Ond yr oedd Rhys yn gwaeddi fwy fwy, nes yr oedd wedi llwyddo i gael pawb o bobl y ty i wrando bellach. Gorfu ar y gwr dyeithr