hysbysu mai efe oedd Mr. — a breswyliai yn y palas, gan roddi iddo bunt, a gorchymmyn i alw bob tro y delai heibio. Tywalltodd Rhys bentwr o fendithion ar ei ben, gan ymadael
Yr oedd Rhys yn ddyn o alluoedd cryfion, ac efe a arferai gyfansoddi pregethau da, ond traddodai hwynt yn wyllt a chawdelog. Nid oedd byth yn absenu neb. Er ei dymmer boeth, nid oedd neb yn ammheu ei ddidwylledd a'i dduwioldeb. Bu farw Ionawr, 1847, yn 75 mlwydd oed. Ger llaw y ty y ganed ef y mae Pwllpair, lle mae yr afon Dulas yn cwympo dros graig; a dyna sydd yn rhyfedd, fod tebygolrwydd mawr yn nhymmer a thraddodiad Rhys Yr rhaiadr — yn chwalu, byrlymu, a rhuo.
DAVIES, RUBEN (Reuben Brydydd y Coed), a anwyd yn Nhan yr Allt, Cribyn. Yr oedd yn ddyn ieuanc o dalentau cryfion iawn, fel y mae yn adnabyddus i'r rhai ydynt yn gyfarwydd â'i waith. Nid oedd yn ymhoffi rhoddi ei fyfyrdodau ar bethau cyffredin ac isel; ond yr oedd yn berchen chwaeth ragorol o uchel. Y mae yn amlwg, pe buasai y gwr ieuanc hwn yn cael byw oes weddol hir, y buasai yn dyfod yn glod i wlad ei enedigaeth. Yr oedd hefyd yn ysgolor rhagorol Yr oedd ar fin myned i goleg Henadurol Gaerfyrddin. Aeth trwy yr arholiad cyntaf yn llwyddiannus Ond druan o hono, ymaflodd y dyfrglwyf yn ei gyfansoddiad gwanaidd, ac felly gorfu iddo adael Caerfyrddin. Bu farw Ionawr 8, 1833, yn 25 mlwydd oed. Yr oedd yn un o brif gyfeillion yr hyglod Daniel Ddu.
DAVIES, RICHARD, a aned, y mae yn debyg, yn ardal
Llechryd ac Aberteifi, yn y flwyddyn 1658. Y mae tebygolrwydd taw mab James Davies, o Aberteifi, yr hwn a
gafodd drwydded i bregethu yn y flwyddyn 1672, oedd
R. D.; ac y mae yn debyg taw un o'r un teulu oedd Evan
Davies, y cyntaf o'r Gilgwyn. Gafodd ysgol uchel ond,
nis gwyddom ym mha le. Priododd â Rosamond, merch
yr Anghydfiurfiwr enwog, Henry Williams, Ystafell, ger y
Drefnewydd. Bu yn cadw ysgol enwog yn Llundain. Yr
oedd yn gyfaill mynwesol i dywysog y duwinyddion, y Dr.
Owen. Gafodd ei urddo yn Rothwell, swydd Northampton,