Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llangybi, yng nghymmydogaeth Llanbedr Pont Stephan. Yr oedd yn frawd i'r Parch. D. Davis, Castell Hywel Bu am beth amser yn gydathraw â'r Parch. R. Gentleman yn athrofa yr Ymneillduwyr yng Nghaerfyrddin. Yr oedd yn cael ei gyfrif yn ysgolhaig Hebraeg rhagorol; a bu y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydyddd Hir) gydag ef am beth amser yn dysgu'r iaith hòna Wedi hyny aeth i Lynlleifiad, lle y bu yn gydweinidog â Mr. Yates: ond am lawer o flynyddoedd olaf o'i oes bu yn weinidog yn Evesham, lle y bu farw Ionawr, 1811.

DAVIS, DAVID, ysgolhaig a bardd rhagorol, a anwyd yn y Goettref Isaf, ym mhlwyf Llangybi, o gylch y flwyddyn 1743. Gafodd ei anfon i'r ysgol yn olynol i Lanybydder, Llangeler, Leominster, ac a orphenodd ei ddysg yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Daeth yn bregethwr Arminiaidd ac a sefydlodd ar y cyntaf yng Nghiliau Aeron; ond (ar ol cael ei urddo yn gydweinidog â'r Parch. Dafydd Llwyd, yn Llwyn Rhyd Owain, a manau eraill, efe a sefydlodd yng Nghastell Hywel, oddi wrth ba le y cafodd byth ei adwaen yn ol llaw wrth yr enw Mr. Davis Castell Hywel. Cadwodd yma ysgol enwog am flynyddoedd lawer, i ba le yr oedd ieuenctyd o'r holl ardaloedd cyfagos, yn gystal ag o fanau pell, yn dyfod i ymofyn dysg, llawer o'r rhai a ddaethant yn enwog fel ysgolheigion, ac i lanw cylchoedd uchel a pharchus mewn gwlad ac Eglwys. Yn y flwyddyn 1824: cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth, dan yr enw Telyn Dewi, Y mae y Llyfr yn cynnwys llawer o gyfieithadau o'r Seisoneg; ac y mae ei gyfieithad o Gray's Elegy sef Myfyrdod mewn Mynwent yn y Wlad ar frig yr Hwyr yn cael ei ystyried gan lawer yn rhagorach na'r gwaith gwreiddiol. Priododd Tachwedd 15, 1755, â Mis Ann Evans, Foelallt, yr hon fu yn gydymaith bywyd tra dedwydd iddo. Yr oedd yn meddu dysgeidiaeth a gwybodaeth uchel, ac yn hynod am ei ysbryd hynaws a didramgwydd. Ym mhrydnawn ei fywyd symmudodd o Gastell Hywel i Lwyn Rhyd Owain, lle y bu farw tua'r flwyddyn 1826, yn 83 mlwydd oed. Gafodd ei gladdu yn Llanwenog. Y mae B. Evans, Ysw., cyfireithiwr, Gastell Newydd yn Emlyn, yn ŵyr iddo. Hefyd, y mae John Jones, Ysw., cyfreithiwr, Llandyssul,