Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r Parch. Joshua Evans, periglor Llanofer, sir Fynwy, yn orwyrion iddo. Mae yr olaf yn bwriadu ail gyhoeddi ei waith barddonol, yng nghyd â hanes ei fywyd; a diammheu y celai y llyfyr dderbyniad gwresog a helaeth gan y wlad, gan nad oes modd braidd gael copi o'r argraffiad cyntaf am unrhyw arian.

Ymddengys fod Mr. Davis yn hollol ddedwydd mewn addysgu pobl ieuainc. Clywsom hynafgwr yn dyweyd er ys ychydig yn ol, eu bod fel dosbarth un prydnawn wedi myned dros eu gwers yn weddol rwydd; a chan fod yr hin yn dwym iawn, yr oedd yr hen wr wedi cael ei hanner orchfygu gan gwsg, ac felly yr oeddynt yn falch o'r cyfle; ac ym mhen ychydig dywedodd yr olaf, "That is all, sir". Erbyn hyny dyna yr hen athraw yn rhwbio ei lygaid, ac yn ymysgwyd fel cawr, gan ddywedyd, "Oh, that's all, is it i". Ar ol hyn efe a'u cadwodd am dair awr, gan fyned yn ol a blaen ar hyd un llinell o Ladin, gan olrhain gyda manylrwydd bob cyssylltiad ag a allesid gael yn perthyn iddi. Yr oedd yr hen foneddwr a adroddai yr hanes wrthym yn dywedyd fod holl wersi yr hen athraw yn rhy- feddol dda a meistrolgar, ond fod gwers y prydnawn hwnw yn aros yn ffres ar ei gof. Y mae hanes ei fod yn elusen- gar iawn i dlodion; ac yr oedd Mrs. Davis gymmaint felly ag yntau. Yr oedd yn wr o dymmer ostyngedig a charedig, ac hefyd yn ddrylliog. Yr oedd yn aml yn wylo yn hidl pan yn pregethu, yn neillduol wrth draddodi rhai pregethau, megys y Mab Afradlawn, &c.

Er mai cyfieithad ydyw ei Fyfyrdod mewn Mynwent eto i gyd y mae wedi piesennoli y golygfëydd mor Gymreig ac mor ardderchog, fel y byddai yn werth i bob cyfieithydd ymdrechu ei efelychu yn hyn. Y mae y cyfan o'r gân swynol hon yn goglais teimlad y darllenydd gymmaint, fel nas gall yn aml lai na cholli dagrau. Buom lawer adeg yn darllen gwaith o natur uchel a choethedig; ond ar ol ei ddarllen unwaith neu ddwy, yr oedd y swyn yn darfod, ac nid oedd awydd am ei ddarllen drachefn; ond nid felly y gân odidog hon; y mae hon yn dal fyth a hefyd yn ei blas cynenid. Ar ol dilyn y dyn ieuanc a chadarn yn gorwedd dan dew goeden yng ngwres