Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr haul ganol dydd, yn gwrando dwndwr per y dwfr, ac yn gweithio pennill neu englyn, ac yn y prydnawnau yn rhodio ar y gwyndwn glân, weithiau yn gwenu wrth fwmial canu, a phrydiau ereill yn llibyn pendrwm heb englyn na phennill, mewn trwm ofid neu fawr gariad wedi troi yn anobaith prudd, y mae yn colli yr olwg arno. Y mae y gân hon eto yn diweddu mor dda, fel y mae "ysgrifen fedd" y gwrthddrych yn cadw fyny â'r holl gyfansoddiad o'i dechreu i'w diwedd. Mewn gair, y mae'r gân hon yn ddigon i roddi coron lawrwyddog bardd i'r cyfieithydd, pe na buasai dim arall. Y mae hefyd ei Anerch i'r Duwdod, Golwg ar Fangre ac Amser Mebyd, Ffynnon Bedr, Cwymp Ffynnon Bedr, Y Gwynfan, Cri Carcharor dan Farn Marwolaeth a llawer ereill, yn ddamau ardderchog o farddoniaeth, o chwaeth uchel a choethedig iawn. Y mae bellach ddeugain namyn un o flynyddau er pan orphenodd yr awdwr dysgedig ei yrfa ddaiarol; ond er hyny y mae ei gofiant ym mhob modd yn uchel yn ei wlad, a diammheu y deil felly tra byddo yr iaith seinber, yr hen Gymraeg doreithog, i gael ei siarad ar lechweddi Ceredigion. Mewn rhyddiaith, cyfieithodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, gan Scougal. Y mae y beirdd Mr. Joseph Jenkins, Trecefel, a'i frawd Mr. John Jenkins, a'r Parch. J. Davis, B.D., Llanhywel, yn wyron i frawd Mr. Davis. Gorwyr i'w frawd yw Mr. J. Jenkins (Penarth) Melin y Coed.

DAVIS, David, Pantteg, a aned yn Chwefror, 1791, yng Nghilfforch, ger Aberaeron. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol a pharchus yn y wlad. Ymunodd Mr. Davis â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Neuaddlwyd, pan yn dra ieuanc; ac ar gymmeradwyaeth ac annogaeth ei fugail, y diweddar Barch Ddr. Philips, efe a dderbyniwyd i Goleg Henadurol Caerfyrddin pan yn 17 oed. Bu cyn hyny mewn rhai ysgolion gwledig, ac yn eu plith ysgol enwog y dysgawdwr dwfn a'r bardd awenber, y Parch. D. Davis, Castell Hywel. Wedi treulio ei amser penodedig yn y coleg, efe a gafodd wahoddiad i fod yn gydfugail a'r Parch. John Griffiths, yng Nghaernarfon; a thua'r flwyddyn 1813 efe a urddwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn y dref uchod.