Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'i fugeiliaeth drostynt, ag alwar yn cynnwys 167p. Daeth ei oes i ben, er ei fod wedi cyrhaedd "gwth o oedran" hytrach yn anamserol, neu o leiaf yn lled ddirybudd, trwy gwymp oddi ar ei geffyl, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, a fu yn achos dechreuol o'i afiechyd. Dim ond mis neu bum wythnos y bu fyw wedi cyfarfod ei Iwbili; ac efe a hunodd yn yr angeu Gorph 1864, yn 73 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 52 mlynedd. Efe a fydd byw eto yn hir yng nghofion serchocaf ei efrydwyr, ei eglwysi, a lluaws o'i edmygwyr dysgedig yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod ei oes efe a ysgrifenodd lawer i'r gwahanol gyfnodolion, yn draethodol, dadleuol, &c, trwy yr hyn y dygwyd llawer pwnc tywyll a dyrys i'r goleuni. Pan mewn dadl, yr oedd yn anhawdd cael neb a driniai ei wrthwynebydd mor llym; ymaflai ynddo mor gadarn, ac a'i lloriai mor ddidrugaredd. Bu yn olygydd y misolyn bychan a elwid Tywysydd a misolyn arall a elwid Cronicl Cenadol am hirfaith flynyddau. Cyfansoddodd lyfryn yn cynnwys Sylwadau ar Sefyllfa Prawf Dyn dan yr Efengyl, yr hwn a greodd gynhwrf ar y pryd trwy y Dywysogaeth; yr hwn bwnc y bu efe yn dadleu ag amryw yn ei gylch yn y gwahanol fisolion. Cyfansoddodd hefyd Draethawd ar Godi yn Fore, Cyhoeddodd bregeth ar Ffurf yr Athrawiaeth lachus, a draddodwyd ganddo ar agoriad addoldy Ebeneser, Llansadwrn, yn y flwyddyn 1831. Efe a ysgrifenodd y Sylwadau ar y Dadguddiad, ym Meibl y Parch. D. Davis, Abertawy. Cyhoeddodd holwyddoreg o'r enw Cyfarwyddwr Duwinyddol. Heb law hynyna, y mae yn awr yn barod i'r wasg, yn ei lawysgrifen, draethawd a fwriadai gyhoeddi, dan yr enw "Gwinllan y Gweithio" neu '"Gorf o Dduwinyddiaeth," Hyderir y gwneir sylw gan rywun yn fuan o'r llawysgrifau sydd ar ei ol, a'u dwyn allan trwy y wasg er lles y wlad ; o herwydd y mae yn golled ac yn drueni fod dim a gyfansoddwyd gan wr mor fawr yn gorfod ymlechu mewn cuddfan.

DAVIS, SYR DAVID, KC.H., M.D, oedd unig fab Robert Davis, Ysw., Llwyn, Llanddewi Brefi, o'i wraig, merch ieuengaf John Price, Ysw., Rhos y Bedw. Efe a anwyd yn 1793, ac a briododd yn 1819 â Mary, merch y Parch. John