Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams, Ystradmeurig, a chwaer y diweddar Archddiacon Williams. Derbyniodd y Guelphic Order oddi wrth Gwilym IV. ychydig ddyddiau cyn marwolaeth y brenin hwnw, ac a gafodd ei wneyd yn Farchog gan y Frenines Victoria yn fuan ar ol ei hesgyniad i'r orsedd. Bu am ryw gymmaint o amser yn ymarfer ei alwedigaeth fel meddyg yn Hampton; ond gadawodd y dref hòno, trwy gael ei benodi yn feddyg i Gwilym IV. a'r diweddar Frenines Waddolog, yr hon a fu yn weini yn ei alwedigaeth am bum mlynedd cyn eu hesgyniad i'r orsedd. Bu farw yn nechreu Mai, 1865, yn 72 mlwydd oed, tra yn aros yn Lucca, Itali, er mwyn cryfhâd ei iechyd. Yr oedd yn cael ei ystyried yn un o feddygon uchelaf y deyrnas.

DAVIS, JOHN, ydoedd bedwerydd mab y Parch D. Davis, Castell Hywel, a anwyd Mehefin 5, 1787. Cafodd egwyddorion ei ddysgeidiaeth dan ofal ei dad a'i frawd. Bu wedi hyny yn dysgu rhifyddiaeth gydag un Mr. Parry, yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1804 ymrwymodd yn egwyddorwas meddygol gyda'r meddyg enwog Mr. Morgan, Dolgoch, ŵyr y Parch. D. Rowlands, Llangeithio, ac wedi hyny gyda meddyg enwog arall o'r enw Williams, yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1808 aeth trwy yr yspytty fel efrydydd bydwreigiaeth, a phenodwyd ef yn gymhar-yspytty ar fwrdd agerlong i uno â'r Fyddin yn Ynys Walcheren, lle y bu nes i'w iechyd ammharu, a daeth adref i Lwyn Rhyd Owain, lle y bu farw ym mhen wythnos, Hydref 27, yn 23 mlwydd oed.


DAVIS, JOHN, oedd enedigol o Bontfaen, yn Nyffryn Aeron, ac nid pell o borthladd Aberaeron. Astudiodd yn gyntaf o dan yr enwog David Davis, o Gastell Hywel; yna yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, y pryd hwnw o dan olygiaeth y Parch. Robert Gentleman, ac ar ol hyny am ddwy neu dair blynedd yn Daventry, o dan y Parch. Thomas Belsham. Tra yn Daventry, aeth i goleddu syniadau Undodaidd, er iddo gael ei ddwyn i fyny yn y ffydd Drindodaidd. Yr oedd Mr. Belsham y pryd hwnw yn iawn-fiyddiog, ac yn dra gofidus am fod Mr. Davis yn cael ei arwain allan o'r ffordd gywir, fel y tybiai ar y pryd. Ymsefydlodd Mr. Davis yn gyntaf yn eglwys fechan