Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1798. Ar ddiwedd ei yrfa golegol cafodd ei urddo i gydweinidogaethu â'i dad yn Llwyn Rhyd Owain a manau ereill. Ymadawodd â gwlad ei dadau, a sefydlodd yn y Great Meeting, Coventry, Medi 9, 1810. Cafodd yn y lle hwn gymdeithas amryw o enwogion Lloegr. Priododd Mai 19, 1811, â boneddiges ieuanc o Evesham. Cyn, ac wedi ymadael â Chymru, rhoddodd Mr. Davis ran fawr o'i amser i gyfieithu Esboniad' Dr. Coke i'r Gymraeg. Yn 1818 collodd un o'i bedwar plentyn a aned iddo yn Coventry. Symmudodd i Evesham ym Mehefin, 1818, lle y treuliodd bymtheg ar hugain o flynyddau yn y weinidogaeth. O blegid henaint a llesgedd, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny Gorphenaf 17, 1853. Bu farw Tach. 28fed, 1860, yn 80 mlwydd oed. Arminiaeth oedd y wlad yn gyfrif ydoedd credo yr enwog Ddavis o Gastell Hywel; ond y mae yn debyg ei fod yn gogwyddo at Ariaeth : ond symmudodd ei blant yn nes ym mlaen i dir Ariaeth gyhoeddus, ac yn y diwedd y cofleidiasant yr hyn a elwir Undodiaeth hollol. Heb law cyfieithu Esboniad Dr. Coke, cyfansoddodd a chyhoeddodd Mr. Davis y gweithiau canlynol: — Cyfarwyddiadau i chwilio yr Ygrythyr Sanctaidd, mewn pregeth a draddododd yng Ngallt y Placca, mewn cyfarfod o weinidogion, Mai 6ed, 1832. Peryglon a Dyletswyddau Bywyd; pregeth yn angladd Ben. Jones, Coedlanau Fach, Mehefin 26fed, 1835, &c. Ac yn Seisoneg — Serious Admontion to the Young; on the great Duty of Remembering their Creator: in a discourse delivered at the Presbyterian Chapel, Oat-street, Evesham, on the 5th of January, 1834. A Sermon on the Season of Spring, delivered in the same, on Sunday, 18th of May, 1834. On Public Worship, and the Unity of God; two sermons preached at the chapel, in Manchester-place, Cheltenham, formerly belonging to the Society of Friends on occasion of the said chapel being opened for the worship of one God the Father, through Jesus Christ.

DEIO AB IEUAN DDU ydoedd enedigol o blwyf Llanfihangel y Creuddyn. Yr oedd yn ei flodau yn y rhan olaf o'r pymthegfed canrif. Y mae yn ein meddiant hen gywydd adysgrifiwyd o'r Gronfa Brydeinig er ys tua