Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thair blynedd yn ol, yr hon sydd yn rhoddi hanes bywyd y bardd yn well na dim ag sydd mewn cof a chadw.

"CYWYDD Y CLERA YNG NGHEREDIGION"

" Y SIR oll a fesuraf
O Deifi i Ddyfi 'dd af ;
O Dywyn ac o'r glyn gloew
Y treiglaf i'm gwlad tragloew
Profi achoedd prif uchel
Ac ar dwf y gwŷr y dêl;
Dechreu o ddeheu ydd wyf
Y Sirwen gwlad ni sorwyf :
Hil Rhys melus y molaf,
Tewdwr o Ddinefwr naf :
Galw llwyth Einion Gwilym,
Y sy raid yn y sir ym'
Oddi yno mae f ' eiddunoed,
Dros y Cwm i dir Is Coed;
Ym mhlith llin Rhys chwith ni chaid
Ond aur gan benaduriaid;
Clawr rhif y gwŷr digrifion,
Coed y maes yw cyd a Mon;
Agos yw Caerwedros ym',
Dros y ddeheuros hoewrym.
Dyfod at waith Llwyn Dafydd
Da fan gan bob dyn a fydd ;
Doniog i ni fod myn Deinioel
Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
Trown yno trwy Wynionydd,
Clera difeita da fydd;
Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
Hael faich o Hywel Fychan r
Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
O Ddinawal a dâl dau.
Oddi yno deffro'r dyffryn
Rhwyfo'r elod rhof ar y glyn,
Pob man o'r glyn a blanwyd,
Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
Dyfod at wyrion Dafydd
Tros y rhos, wttreswr rhydd;
Dilyn y man y delwyf,
Pobl Weithfoed erioed yr wyf;
Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
O Benardd a Mabwynion,
I riniog oludog wledd,
Mi af yno, mae f ' annedd :
Hil y Caplan oedd lanaf,
Gwir iawn, ei garu a wnaf