Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Troi f' wyneb traw i fynydd,
Drwy y sir o dre' y sydd;
Amlwg yw hil Gadwgon,
O waelod hardd y wlad hon.
Goreu ceraint gwŷr carawg
A Uyn fydd rhyngddyn' y rhawg.
Digrifion myn Duw grofwy,
Doethion a haelion ŷn' hwy,
Câr iddynt wyf o'r Creuddyn,
Llyna haid o'i llin i hyn;
Llinach Llywelyn Ychan
Y maent hwy oll, myn y tân.
Enwau y cwmmwd einym'
Perfedd hyd Wynedd, da ym':
Llawdden oedd y gwarden gynt
Hil Llawdden hael oll oeddynt
Achau y cwmmwd uchod,
Geneu'r Glyn lle gana'r glod;
Moli hil Gynfyn Moelawr,
Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
Llyna hwy wrth y llinyn,
Achau'r holl gymmydau hyn :
Ufudd a dedwydd da iawn,
A mawr agos môr eigiawn;
Troi'n eu mysg trwy ddysg ydwyf,
Tros y wlad trasol ydwyf.
Ni chawn, myn Duw a Chynin!
Dy bach o'r Deheu heb win.
Llawen fyddai gwên pob gwr
Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
Rhai dibwyll aur a dybia
Na chenid dim ond chwant da,
Cariad y ddeheu-wlad hon,
Rhai a'i haeddodd â rhoddion.
Lle mager yr aderyn,
Yno trig, natur yw hyn;
Minnau o'r Deau nid af;
Ar eu hyder y rhodiaf.
"DEIO AB IEUAN DDU."

Ni a welwn wrth y cywydd uchod, mai wrth glera o fan i fan ar hyd y palasau a thai cyfoethogion y wlad yr oedd y bardd yn byw. Dyna oedd dull llawer iawn o'r beirdd yn y cynoesoedd. Yr oedd Lewis Glyn Cothi, yr hwn oedd gydoesydd â'r bardd, yn clera yn barhäus o fan i fan, gan grwydro o'r Deheudir i'r Gogledd, gan gael croesaw mawr gan y boneddigion. Yr oedd y beirdd wrth glera yn