Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn llawn pwyll ni all byw
Eu d'wedyd — gormod ydyw ;
Ni wyddom faint ei ddyoddef,
Ni ŵyr un ond Ior y nef."

Bu farw Mawrth 28, 1846, yn 54 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Pencareg. Clywsom mai dyma yr englyn olaf a wnaeth, sef beddargraff ei rieni: —

Rhoi tad a mam fad i fedd,— rhoi wyneb
Rhai anwyl i'r ceufedd :
Trwy fon y galon gulwedd,
E dery glwyf mal dur gledd.

Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn ymyl ei le genedigol. Ni fu yn briod. Y mae Mr. John Evans, Nant y Gelli, Dyffryn Aeron, yn nai i'r bardd; ac y mae Mrs. Jenkins, RHhyd y Benau, Mrs. Jenkins, Glanwern, a Mrs. Jenkins, Felindref, yn nithod iddo.

(1) "Buddugoliaeth y Groegiaid ar y Tyrciaid" ydym yn feddwl oedd y testun

EVANS, DANIEL, Capel Drindod, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a aned yn y flwyddyn 1774. Teithiodd lawer iawn o Dde a Gogledd. Gwr tawel, crefyddol, a thra chymmeradwy oedd. Treuliodd oes lafurus a defnyddiol. Bu farw ym Mehefin, 1845, yn 71 mlwydd oed. Wyr iddo yw y Parch. E Phillips, Castell Newydd Emlyn.

EVANS, DAVID, o'r Llechwedd Deri, ac wedi hyny sylfaenydd Ffynnon Bedr, oedd fab Iefan Goch o'r Dolau Gwyrddon, ac yn ddisgynydd cywir o Wilym Llwyd, o Gastell Hywel, a Chadifor ab Dinawol. Yr oedd yn uchel-sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1641. Ei wraig oedd Mary, merch John Llwyd Siencyn, Blaenhiraeth, o deulu y Gilfach Wen Uchaf.

EVANS, DAVID, ydoedd fab Thomas Evans, ac ŵyr i'r D. Evans blaenorol. Cymmerodd ran yn y rhyfel cartrefol yn Erbyn y brenin; ac yr oedd yn gadben ar fyddin dan Bwyllgor y Diogelwch. Ei wraig oedd Jane, merch W. Herbert, Ysw., Hafod Ychdryd.

EVANS, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhen y Graig, ger Caerfyrddin, a aned yn Llwyncelyn, Llanddewi Brefi, Rhag. 16, 1811. Enwau ei rieni oedd David