Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Mary Evans. Symmudodd ei rieni i'r Coedmawr, nid pell o Langeitho. Bu D. Evans yn yr ysgol gyda'r Parch. John Jones, yn Llangeitho, am bedair blynedd, yn dysgu Seisoneg, Lladin, a rhifyddiaeth. Ymunodd â'r Trefnyddion pan yn dair ar ddeg oed. Perthynai ei dad i Eglwys Llangeithio, a'i fam i'r Annibynwyr yn Ebeneser. Anfonwyd ef i'r ysgol at y Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; a chyn hir, ymunodd â'r Annibynwyr. Bu am ryw gymmaint yn yr athrofa hòno. Symmudodd i Goleg Caerfyrddin yn y flwyddyn 1831, a bu yno am bedair blynedd. Cafodd ei urddo ym Mhen y Graig, ger y dref hòno, Ionawr 15, 1835. Gweinidogaethai hefyd yn Philadelphia. Priododd Miss Ellen Thomas, Wernwen, Medi 28, 1838. Bu yn dra llafurus yn yr ardal, yn Erbyn arferion ffol a phechadurus. Yr oedd yn bregethwr cymmeradwy, ac yn wr o gymmeriad difrycheulyd. Bu farw Mai 12, 1849. Ceir cofiant helaeth iddo yn y Drysorfa Cynnulleidfaol am Ebrill, 1850.

EVANS, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr yn Llechryd a'r Drewen, a anwyd, meddir, ym Mlaenpistyll, yn y flwyddyn 1707. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidog aeth Ebrill 25, 1739. Yr oedd y gweinidogion G. Palmer, Philip Pugh, Evan Davies, o Hwlffordd, Thomas Morris Lan y Bri, D. Jenkins, Jenkin Jones, Timothy Davies, ac Abel Francis yn bresennol yn yr urddiad. Bu farw yn 1773, yn 66 mlwydd oed.

EVANS, DAVID, un o weinidogion y Wesleyaid, oedd enedigol o ran uchaf o Geredigion. Dechreuodd ei oes yn y flwyddyn 1789. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1810. Dywedir ei fod yn ddyn o ddeall cryf, ac o dymmer lednais. Dywedir ei fod wedi casglu llawer o wybodaeth, ond er hyny yn ddyn gostyngedig a hunanymwadol. Bu farw yn y flwyddyn 1854.

EVANS, DAVID, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfin aidd, a aned ym Mhen y Graig Isaf, ger Aberaeron, yn y flwyddyn 1768. Cafodd fanteison dysg yn ieuanc, a bu wedi hyny yn Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol am ryw flynyddau, ac ymunodd â'r Trefnyddion yn Ffos y Ffin, a dechreuodd bregethu yn lled fuan; a rhoddodd ar ei