Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wylo yn fynych; ac y mae y cyfan o'i farddoniaeth yn dangos syniadau a theimladau Cristion dwysfeddyliol a defosiynol Wrth edrych ar y dyn mawr hwn, yr ydym yn gweled ynddo yr ysgolor ardderchog, y bardd trylen ac awenyddol, yr hynafiaethydd dwfn a manol, a'r gwladgarwr gwresog a diffuant; ac ond taflu mantell cariad dros un gwendid ynddo, sef y duedd i yfed i ormodedd (yr hyn a ddechreuodd pan oedd yn ei dristwch wrth weled ei aflwyddiant), yr ŷm yn cael ynddo hefyd nodau hyfryd a boddhaol o weinidog a Christion. Nis gall Ceredigion, na Chymru oll, lai na bod yn falch iawn o'r cymmeriad llachar hwn yn ffurfafen ei llenyddiaeth. Dygodd drysorau gwerthfawr ei llenyddiaeth o guddleoedd hen lyfrgelloedd llychlyd, i oleu dydd ; nid yn unig i Gymru, ond hefyd i'r byd yn gyffredinol, trwy eu cyfieithu i'r Seisonig a'r Lladin. Gwasanaethodd ei wlad gydag egni dyfal, ac ni chafodd nemawr gydnabyddiaeth ganddi ; ond (wrth ddwyn ei llenyddiaeth i olwg y byd, cyhoeddi pregethau er adeiladaeth ysbrydol ei gydwladwyr, gwelai bersonau ereill heb feddiannu ei deilyngdod ef yn cael eu codi, ac yntau yn gorfod chwilio gwlad a gorwlad am guradiaeth! Mae 78 o flynyddau wedi myned heibio er pan yr hunodd y dyn mawr hwn, yr hwn a wasanaethodd ei wlad gyda'r fath ffyddlondeb; ac y mae Ceredigion, a Chymru oll, wedi gadael ei fedd heb gymmaint a chareg i ddynodi y fan, pan y mae degau o filoedd llai teilwng wedi cael cofgolofnau drudfawr! Y mae, fel y dywedasom, amryw ddamau o'i waith barddonol wedi eu cyhoeddi ; ond y mae hefyd lawer heb ei gyhoeddi o gwbl. Yr ydym yn deall fod y rhan fwyaf o'i lythyrau a'i farddoniaeth hefyd wedi bod mor ffodus a syrthio i ddwylaw un o'n llenorion mwyaf cymhwys a theilwng i'w derbyn o bawb yn y wlad, sef y Parch. D. Silvan Evans, B.D., Llan ym Mawddwy. Mae ei holl destynau cân naill ai crefyddol neu wladgarol. Mae ei " Gywydd i'r Messiah" yn llawn teimladau crefyddol ac awenyddol ; ac y mae ei " Awdl i'r Nef" yn ysblenydd iawn. Mae ei gywyddau ar farwolaeth yr Urddasol Bendefig R Davies, o Lanerch, a Mr. Lewis Morris yr hynafiaethydd, yn ddarnau gwerthfawr. Mae ei