Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Penitent Shepherd" yn dangos ystyriaethau difrifol o'r swydd weinidogaethol. Cafodd y gân hòno ei chyfieitha, ar fesur cywydd, gan y Parch. D. Ellis, yn 1787. Wrth son am L. Morris, dywed, —

" I Gamden y rhoes sen sur,
A'i Frydain, ofer awdur,
Ac ef ddangosodd hefyd,
O fawr bwyll, ei fai i'r byd."

Mae ei englynion i'r "Pechadur Edifeiriol," a geir yn y drydedd gyfrol o'r Gwyliedydd, yn cynnwys syniadau difrifol iawn ar wely cystudd. Wele un o'r deunaw: —

"Duw Dad, gariad, dwg wirion — i'th nef,
Ac i'th nawdd yn dirion;
O'r llaid a'r hir drallodion,
I fyny dwg f'enaid, Ion."

Nid oes modd darllen gwaith y gwr mawr hwn heb gael ein llanw â pharch tuag ato. Un o brif feibion Ceredigion a Chymru oedd. Y mae perthynasau lawer iddo ar hyd y wlad. Y mae y Parchn. T. Williams, Yspytty Ystwyth, W. Williams, Cefn y Meusydd, ger Porth Madog, Mr. Wm. Jones, Yspytty, a llawer ereill, yn rhai o'r tylwyth.

"Aweu briodai ein Ieuan Brydydd
Hir — draw argludir ei glod drwy'r gwledydd;
Athraw o lân waith a thrylen ieithydd,
Ac o'r hen oesau cywir hanesydd
Ei wlad — offeiriaid y ffydd — saif uwch ben
Drwy ei gu Awen — byw wna'n dragywydd."
Ioan Mynyw

EVANS, EVAN, Aberffrwd, gweinidog diwyd a chymmeradwy gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymunodd â chrefydd yn lled ieuanc, ac ni bu yn hir cyn dechreu pregethu. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1822. Teithiodd lawer o'r wlad gyda llawer o ffyddlondeb. Ar ol ymdrechu ymdrech deg, gorphenodd ei yrfa, Chwefror 2, 1856, yn 73 mlwydd oed.

EVANS, EVAN Griffith, Penwenallt, plwyf Llandygwydd, oedd foneddwr cyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol, ac yn bleidiwr gwresog iawn i'r Brenin Siarl I.