esboniad cyntaf a gyhoeddwyd ar unrhyw ran o'r Ysgrythyrau yn y Gymraeg. Golygodd y Beibl Cymreig yn 1770; a chyhoeddodd Deddfau Cristionogol sef cyfieithad o waith yr Esgob Gostrel, yn 1773. Meddylir taw efe a gyfieithodd Ymarferiadau Sacramentaidd gan Dr. Earl, yn 1735; eto y mae rhai yn ammheu hyny, o herwydd fod cymmaint amser rhwng hyny a'r llyfr 1773. Ceir ei enw yn danysgrifiwr am bregethau Ieuan Brydydd Hir, yn "Rev. John Evans, M.A.. Author of the Harmony of the Four Gospels. Tebyg mai yn Llanarth yr oedd pryd hyny. Yr oedd yn Portsmouth yn 1768, canys mae ei enw yn danysgrifiwr am y Credadyn Bucheddol, o gyfieithad Rhisiart ab Robert o Lanrhaiadr yng Nghinmerch. Tebyg taw curad oedd yno hefyd; ond ymddengys iddo briodi dynes gyfoethog, neu gael gafael ar dwysged o gyfoeth yn rhyw sut, canys efe a brynodd Parcau Gwynion, a Bryn Cethin, ym mhlwyf Llangeitho, tra yr oedd yn Portsmouth. Nis gwyddom a fu yn briod ai peidio; ond os bu, nid yw debyg iddo gael plant, gan i'w frawd, Daniel Dafydd Ifan, Meini Gwynion, gael y ddau le a enwyd, yng nghyd â'i lyfrau. Talodd 350p. 5s. am y Parçau; a'i frawd, Daniel, a dalodd 40p. Enw ei frawd sydd ym mlaenaf. Yr oedd ei frawd i gael y lle ond talu 387p. 10s. iddo ef; ond ni chymmerodd hyny le. Y cynfeddiannydd oedd D. Llwyd, Berllan Dywyll, fel etifedd ei fam, Grace Llwyd, o'r Crynfryn.(1) Gadawodd Mr. Evans hefyd le o'r enw Penuwch, Llanpenal, i'w frawd. Bu farw yn Portsmouth yn y fl. 1779. Daeth llyfrau gwerthfawr iawn ar ei ol, ac yr oeddynt, y rhan fwyaf, i'w gweled yn y Parcau, yn nechreu y canrif hwn. Y mae rhai o honynt i'w gweled ym Meini Gwynion hyd yn awr. Mae Mr. D. Evans, Meini Gwynion, a'i frawd Mr. Thomas Evans, masnachwr, Castell Newydd Emlyn, yn orwyrion i'w frawd. Mae hefyd y Parch. D. Evans, Llansantffraid, Morganwg, yn esgynydd i'w frawd; ac felly Mr. E. Evans, Griag Wen, Llangeitho. Mae yn deilwng o sylw yma, sef i'r Llyfr
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/85
Gwedd