Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ancr o Landdewi Brefi, gael ei ysgrifenu o fewn pedair milltir i'r Meini Gwynion, lle genedigol awdwr Cytsondd) y Pedair Efengyl. Mae hen gofnodiad Cymreig fel hyn : — "Gruffydd ab Llewelyn ab Trahaiam o'r Cantref Mawr, a beris ysgrifenu y Llyfr Goleidyfr, &c., o law cydymaith iddo, nid amgen na gwr oedd Ancr yr amser hwnw yn Llanddewi Brefi, sef y flwyddyn 1346." Cyunwysai, ym mysg pethau ereill, eglurhâd ar y bennod gyntaf o Efengyl loan, yn yr iaith Gymreig. Yn y modd hyn, dyma y ddau esboniad wedi eu hysgrifenu yn yr un gymmydogaeth.

(1) Trydydd gwr Grace oedd y Parch. John Williams, Catherington, yr hwn oedd gymmydog i Mr. Evans.

EVANS, JOHN, diweddar weinidog y Bedyddwyr yn Aberhonddu, oedd fab i'r Parch. D. Evans, Dôl Goch, ac wedi hyny ym Maes y Berllan, Brycheiniog. Ganed ef Yn Nôl Goch, plwyf Troed yr Aur. Bu yn yr ysgol yn Llanllieni, a daeth fel ei frawd, D. D. Evans, yn ysgolor da. Bu am ryw amser yn cydysgolia â'r enwog John Herring, wedi hyny o Aberteifi. Cafodd ei urddo ym Maes y Berllan, o gylch 1810, yn gynnorthwywr i'w dad. Ni chyfrifid ef mor hyawdl a bywiog pregethwr a'i frawd; ond yn llawn mor sylweddol, ac fel gweinidog sefydlog, nid oedd modd cael ei well. Gweinidogaethai ar y cyntaf yn Aberhonddu, Pontestyll, a Phen yr Heol, fel cangenau o Faes y Berllan; ond pan wanychodd iechyd ei dad, ni lafuriai ond yn Aberhonddu a Phontestyll. Parhaodd yn Aberhonddu tra fu byw. Bu yn ysgrifenydd y gymmanfa am lawer o flynyddau.

EVANS, JOHN, a anwyd ym Mlaenplwyf, rhwng Llanddeiniol a Llanychaiain, yn y flwyddyn 1796. Dangosodd pan yn ieuanc lawer o chwaeth at rifyddiaeth. Bu am beth amser yn gweithio gwaith gwëydd ; ond gan nad oedd yn hoffi y gwaith hwnw, ac yn awyddus i gael mwy o gyfleusderau i ddilyn ei hoff efrydiau, efe a aeth i Lundain, lle y bu mor ffodus a chael ei ddwyn i sylw y Cymro talentog a gwladgarol hwnw, Mr. Gruffydd Dafis, y rhifyddwr enwog. Trwy gynnorthwy y boneddwr hwnw, efe a ddilynodd ei efrydiaeth yn awyddus a manteisiol. Wedi gwneuthur cryn gynnydd mewn mesuregiaeth, alsoddeg, trionglaeth, <feo., efea ddychwelodd i Aberystwyth, ac agorodd