Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgol yno pan yn bump ar hugain oed; a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes gyda llwyddiant. Yr oedd yn hyddysg mewn llawer o gangenau gwyddoneg bur a chymysgedig; a chanddo chwaeth fawr at ddyfeisio peiriannau gwyddoniaeth. Yr oedd wedi dyfeisio offeryn i ddangos symmudiadau y ddaiar (offeryn syml i gyfeirio at unrhyw seren, ddydd neu nos), haul-ddeial cywrain, &c. Yr oedd yn naturiol yn ddyn gwylaidd a dirodres, ac yn athraw llafurus; a chydag ef y dysgodd y rhan fwyaf o forwyr y parthau hynny yn ei oes y wyddoniaeth forawl. Anrhegodd trigolion Aberystwyth ef â thysteb, fel arwydd o ystyriaeth o'i wasanaeth gwerthfawr yn y lle. Bu farw yn Ebrill, 1861, yn 65 oed.

EVANS, JOHN, un o'r "ddwy fil," ydoedd offeiriad Henadurol ym Mangor ar Deifi, a drowyd allan am na chydymffurfiai. Bu wedi hynny yn weinidog ymneillduol ym mhlwyf Cellan. Dywedir i Dafydd Llwyd Gwyn gynnyg bywoliaeth eglwysig iddo, ond iddo ei gwrthod. Rhoddid gair da iddo am ei weithgarwch a'i ffyddlondeb.

EVANS, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn y Borth, Amlwch, oedd enedigol o ardal Penrhiw Galed. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1753. Dechreuodd ei yrfa grefyddol ym Mhenrhiw Galed, ac anogwyd ef yn fuan i bregethu. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. D. Davies, yn Nhroed yr Aur. Cafodd ei urddo yng Nghapel y Graig, Machynlleth, lle y bu am lawer o flynyddau. Efe sefydlodd yr achos annibynnol yn Aberrhosan a Phenal. Symmudodd i Amlwch, lle y bu am flynyddau lawer. Yr oedd yn ddyn tal a phrydferth yr olwg, yn bregethwr hyawdl, ac yn ddyn hawddgar a chymdeithasgar. Gorfu arno roddi gofal y weinidogaeth i fyny y rhan olaf o'i oes, o herwydd gwendid iechyd Bu farw yn nhŷ ei ferch, yn Nhre Madog, Rhag. 7, 1849, yn 95 oed.

EVANS, JOHN, oedd brydydd, genedigol o ardal Llanarth ac Aberaeron. Bu yn preswylio yn Llanfihangel Ystrad, ac wedi hynny yn Llanarth. Cyhoeddodd lyfryn o brydyddiaeth yn y flwyddyn 1799, gan alw ei hun yn "Prydydd a Darllenydd yn Llanarth." Y mae hefyd un gân o'i eiddo ym Mlodau Dyfed. Y mae perthynasau iddo heddyw yn Nyffryn Aeron.