Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Alban Thomas, periglor Blaenporth; ac nid ym mhell oddi yno y preswyliai yr hyglod Iago ab Dewi. Nid oedd ond tua saith milltir i Lwyn Derw a Rhyd y Benau, lle preswyliai y boneddigion llenyddol, W. Lewes a S. Pryce. Gwnaeth pob un o'r cymmydogion a'r cyfeillion hyn eu hol er gwell ar y byd.

Dywedir mai Mr. Evans a ddarganfu rinwedd meddygol ffynnon Llangammarch. Blinid ef yn fawr gan y llwg; ac wrth weled broga yn ymnofio yn y "ffynnon wenwynig," meddyliodd nad oedd modd fod gwenwyn ynddi, ac felly efe a brofodd y dwfr; ac yn raddol, yfodd ragor o honno, nes iddo lwyr wella.

Y mae hen deulu Penwenallt wedi gwasgaru o ardal Emlyn. Cafodd y lle ei werthu er ys rhyw chwech ar hugain o flynyddau yn ôl. Y mae un Mrs. Ann Davies, merch i'r diweddar Mrs. George, ac wyres i John Griffiths, Ysw., yn yr ardal eto. Bu rhieni y diweddar Mr. Griffiths yn America, a chollasant lawer o'u heiddo, o herwydd ymlynu wrth Loegr yn amser y rhyfel rhwng y Taleithiau a'r famwlad. Yno y ganed Mr. Griffiths, ac yr oedd yn dair ar ddeg oed pan ddaeth i Gymru. Pryd hynny aeth yr enw Evans allan. Yr oeddynt yn bobl hardd, tal, a glandeg yr olwg. Bu mab Hanesydd Brycheiniog, a gorwyr awdwr Drych y Prif Oesoedd, farw er ys ychydig yn ol yn Nyfnaint lle y preswyliai yn feddyg parchus.

(1) Clywsom fod Ysgol Sul yng Nghaerfyrddin cyn amser Raikes.

EVANS, Thomas, oedd fab D. Evans, Ysw., Llechwedd Deri, ag ydym wedi grybwyll yn barod. Cymmerodd T Evans a'i fab ran gyhoeddus yn y Rhyfel Cartrefol, a hyny ym mhlaid Cromwel. Crybwylla Walker, yn ei Sufferings of the Clergy, am un Thomas Evans, fel yn meddu awdurdod eglwysig yn siroedd Aberteifi a Maesyfed, yr hyn sydd yn debyg taw efe oedd. Fel y dywedasom, wrth son am ei fab, yr oedd yn gadben ar fyddin o wŷr meirch, o dan "Bwyllgor Diogelwch." Ceir y cofnodiad a ganlyn iddo: -

" Thomas Evans, passionately violent in any thing, first a covenanter, then an eager advocate for the negative oath; afterwards most impetuous against a single person especially the family of his now Majestie, and active captain of horse, and his son David of foote,