under the late Committee of Safety, passing an oath upon others, for their fidelity to the said committee, endeavouring to incite men about the beginning of April last, to take arms against General Monke; impatient without an office and tyrannical in it."(1)
Bu yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1653. Ei briod oedd Elisabeth, merch Ieuan Gwyn Fychan, Moelifor.
- (1) Cambrian Register cyf. i., tud. 166
EVANS, Thomas (Telynog), ydoedd fab i Thomas ac Elisabeth Evans, o Long-adeilfa Aberteifi. Dechreuodd ei yrfa yn y flwyddyn 1839. Yr oedd ei dad yn saer llongau, ac yn ennill arian gweddol dda, ac felly cafodd Telynog fanteision ysgol yn ei faboed. Ar ol tyfu fyny yn Llanc heinif, ymgymmerodd â bod yn freintwas ar fwrdd llong o Aberteifi; ond blinodd yn fuan ar hyny, am fod y fath fywyd, fel y dywedai, yn anghydweddol â'i duedd awenyddol; ac yn Aberdaugleddyf, gadawodd y llong, a ffodd ar ei ymdaith tua gweithiau Morganwg, ac ymsefydlodd yng Nghwm Bach, ger Aberdar. Yn fuan ar ol hyn, symmudodd ei rieni ato yno i fyw. Yn y lle hwn, ffurfiodd Telynog gyfeillion newydd lawer, a'r rhai hyny yn meddu chwaeth lenyddol. Defnyddiodd ei holl oriau hamddenol i goethi ei feddwl, a chyrhaedd gwybodaeth gyffredinol, ond yn neillduol yn iaith ei fam. Darllenai awduron hen a diweddar. Dilynai yr ysgol Sul, ac ymunodd fel aelod crefyddol â'r Bedyddwyr. Parhaodd i ddarllen a myfyrio; ac yn fuan, dechreuodd ysgrifenu i gyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau, a bu yn fuddugol mewn amryw o'r prif destynau. Buom un diwrnod, yn Awst, 1864, yn ei gymdeithas ar lan y môr yn y Gwbert, ger Aberteifi, a threuliasom amser dyddan. O ran ei olwg, yr oedd yn hardd, gweddol dal, ei farf yn llwydgoch ac yn llaes. Yr oedd yn hynod ostyngedig a hawddgar. Tra allan yn y cwch, cyfansoddodd ddau englyn tra rhagorol. Yr oedd yn fardd awenyddol o chwaeth uchel, a diammheu, pe cawsai fywyd, y buasai yn sicr o ddyfod yn un o brif feirdd Cymru. Bu ei gystudd yn faith a nychlyd, a phryd hyny cyfansoddodd hymnau rhagorol. Bu farw Ebrill 29,