Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felfed, Caerfyrddin, oedd enedigol o blwyf Llandyssul. Ganwyd ef yn 1809. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henadurol Caerfyrddin. Ar ol gorphen ei efrydiaeth yno, cafodd ei urddo yn weinidog yn Rhyd y Parc. Agorodd ysgol ramadegol yng Nghaerfyrddin, a daeth ym mlaen yn enwog fel ysgolfeistr. Arweiniodd fywyd gweithgar iawn, trwy ymroddi yn egnïol at ei ysgol, a phregethu mewn mannau pell o'i artref. Bu ganddo geffyl pren yn ei wasanaethu am flynyddau; ond o'r diwedd, cafodd anaf trwm wrth ei farchogaeth. Perchid ef yn fawr fel cyfaill, ysgolhaig, a gweinidog. Bu farw Chwefror 29, 1864. Cafodd ei gladdu yng Nghladdfa newydd Caerfyrddin.

FITZSTEPHEN, ROBERT, ydoedd fab Stephen, castellydd Aberteifi yn amser Harri II., a Nest, merch Rhys ab Tewdwr Mawr. Bu Nest, yr hon ydoedd ddiarebol am ei glendid a'i boneddigrwydd, yn briod ar y cyntaf â Gerald de Windsor, castellydd Penfro; ac ar ôl ei farwolaeth, priododd â Stephen, castellydd Aberteifi; ac ym- ddengys mai yng Nghastell Aberteifi y ganwyd Robert Fitzstephen. Ar ôl marwolaeth Gruffydd ab Rhys, syrthiodd Castell Aberteifi i afael gwŷr y brenin. Rhywle tua'r flwyddyn 1166, ymosododd Rhys ab Gruffydd ar Gastell Aberteifi, ac a'i cymerodd, gan gymmeryd ei gefnder, Robert Fitzstephen, mab ei fodryb Nest, yn garcharor. Wedi i Rys gadw ei gefnder yn y modd hyn am dro yn garcharor, efe, ar ôl ychydig bwyll, a'i gollyngodd yn rhydd fel y canlyn: — Daeth Dermod Mac Murchad, brenin alltudedig, o'r Iwerddon, yr hwn a geisiai gyfnerth tuag at ail ennill ei gyfoeth. Yr ydoedd wedi addaw i Iarll Clâr feddiant o Dalaeth Leinster, ac yn awr addawai i Robert Fitzstephen, a'i frawd Maurice Fitzgerald, dref Wexford a'r ardal amgylchawl, os byddai iddynt hwy uno yn yr un gorchwyl. Ar hyn, Rhys ab Gruffydd, ar ôl ychydig o oediad, a ryddhaodd Robert, a'r ddau frawd a hwyliasant i'r Iwerddon, ac yno dechreuwyd yr hyn a ddiweddodd yng nghyfan ddarostyngiad yr ynys hòno gan frenhinoedd Lloegr. Y fyddin, yr hon a hwyliodd o Gymru, oedd dan dywysiad Robert Fitzstephen; cynnwysai 30 o farchogion,