Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oll o blith ei geraint ei hun, 60 o wŷr mewn arfau trymion, a 303 o'r saethyddion goreu yn y Deheubarth. Y fyddin fechan hon a diriodd yn lle a eiwir Bann (Llwch Garmon, medd y Brut), ger llaw Wexford; a thranoeth y tiriodd yn yr un lle Maurice de Prendergast (1) (pendefig o Ddyfed, yr hwn a ddaethai yn gyfnerth iddynt) â 10 marchog a 60 o saethyddion. Ac yn fuan unodd Dermod â hwy â 500 o wŷr. Ar ol ymladd caled, ennillasant dref Wexford. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1168. Fel hyn ni a welwn mai Robert Fitzstephen o Aberteifi a arweiniodd y fyddin gyntaf tuag at oresgyn yr Iwerddon, yr hwn ydoedd ŵyr i Rys ab Tewdwr.

(1) Prendergast sy ran o dref Hwlffordd. Yr hen ffurf wreiddiol a Chymreig yw Bryn y Gest.

FYCHAN, GWILYM, Arglwydd cyntaf Tywyn, ydoedd yn ei flodau yn y pymthegfed canrif. Y mae yr hanesydd enwog, Edward Llwyd, yn crybwyll am hen lawysgrif yn rhoddi allan achau y Tywyn, fod Gwilym ab Einion, neu Gwilym Fychan, wedi bod yn rhyfela yn Ffrainc, ac wedi ennill arf beisiau yn y wlad hòno, o dan frenin Lloegr, y rhai a ddododd efe am ei hun. Yr oedd yn gastellydd Aberteifi; ac o blegid ei ddewrder yn lladd myntai o Wyddelod a losgasant dy ei dadmaeth yn Pitsiert, a gafodd ei greu yn Arglwydd y Tywyn. Yr oedd yn hanu o Wynfardd Dyfed; ac o hono yntau yr oedd holl arglwyddi clodfawr y Tywyn yn disgyn. Ei wraig oedd Isabel, merch Llywelyn ab Owain ab Meredydd, Arglwydd Isgoed. Dywedir mai Lleici, merch Llywelyn Fychan, ydoedd ei fam; ond y mae yn ammhëus ai y Llywelyn Fychan o Emlyn ydoedd, gan fod i raddau ormod o amser rhyngddynt. Y mae Alban Davies, Ysw., o'r Ty Glyn, yn cynnrychioli Gwilym Fychan, ac yn berchen ar y Tywyn. Y mae llawer iawn o'i ddisgynyddion ar hyd y wlad; ac y mae yr enw Alban yn aml iawn yn y teuluoedd.

FYCHAN, LLYWYELYN, neu LLYWELYN AB GWILYM FYCHAN, a elwid hefyd Arglwydd Ceredigion, ydoedd yn oesi yn amser y Breninoedd Iorwerth II. a Iorwerth III. Yr oedd Llywelyn yn berchen dau balas, un a elwir y Cryngae, ym mhlwyf Penboyr, a'r Ddôl Goch, ym mhlwyf