Troed yr Aur; ac yr oedd hefyd yn geidwad Castell Emlyn. Yr oedd yn hanu o Ednyfed Fychan o Benmynydd Mon, ac yn berchen cyfoeth lawer o amgylch Emlyn. Yr oedd yn ewythr i'r bardd Dafydd ab Gwilym, frawd ei fam. Yr oedd yn wladgarwr enwog, ac yn fardd medrus. Efe a fu yn athraw i'w nai Dafydd ab Gwilym a'r "Tri Brodyr Farchwiail;" a phan yr oedd yr Awen Gymreig megys ar drengu o herwydd colli nawdd y tywysogion, efe a fu yn offeryn i'w hadferu. Efe a gynnaliodd eisteddfod anrhydeddus iawn yn y Ddôl Goch, lle yr oedd yn bresennol feirdd, llenorion, a boneddigion o bob rhan o Cymru. Yr oedd yn bresennol yn eisteddfodau Gwern y Clepa yng Ngwent, a Marchwiail ym Mhowys. Yr oedd yn byw mewn dylanwad a pharch mawr yn ei wlad. Daeth haid wylliaid o Seison Penfro am draws y Ddôl Goch yn y nos, ac a laddasant y pendefig urddasol. Dyma fu diwedd y gwr parchus Llywelyn Fychan. Y mae gan Ddafydd ab Gwilym ddwy farwnad dra theimladol ar ei ol. Claddwyd ef ym Mynachlog Llandudoch.
FYCHAN, LLYWYELYN AB LLYWYELYN, oedd Abad Ystrad Fflur yn y pedwerydd canrif ar ddeg. Y mae gan Llywelyn Goch ab Meirig hen gywydd rhagorol iddo ar adferiad iechyd; ac wrth y gwaith hwnw yr ydym yn cael fod Llywelyn yr Abad yn wr enwog am ei rinweddau. Yr oedd y bardd hwnw yn ei flodau o 1330 i 1370.
GAMBOLD, WILLIAM, a anwyd yn nhref Aberteifi, o rieni parchus, Awst 10, 1672. Derbyniodd addysg ar y cyntaf yn ei dref enedigol, ac wedi hyny yng Ngoleg Caerwysg, Rhydychain. Ar ol ei urddo yn offeiriad, bu yn gwasanaethu am flynyddau fel curad; ac wedi hyny cafodd fywoliaeth Castell Mâl a Llanychaer, swydd Benfro, lle, trwy ei gymmeriad crefyddol, yr ennillodd barch mawr. Trwy iddo dderbyn niwed ar ei fron, efe a gafodd ei analluogi yn y rhan olaf o'i oes oddi wrth allu i gyflawnu ei ddyledswydd fel offeiriad, ac efe a gyflwynodd ei oriau hamddenol tuag at gasglu geiriadur Cymreig a Seisonig. Bu wrth y gwaith pwysfawr a llafurfawr hwn am bymtheg mlynedd, gan chwilio at hyny bob llyfr ag oedd wedi