Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gyhoeddi yn y Gymraeg, yng nghyd â phob llawysgrif. Yn y braslun cyntaf o hono, efe a roddodd i mewn y Lladin rhwng y Seisoneg a'r Gymraeg; ond yn y copi olaf, yr hwn a barotôdd ar gyfer y wasg, efe a adawodd allan y Lladin, ac a wnaeth amryw ychwanegiadau. Yn anfibdus, ni ddaeth y gwaith allan, trwy iddo fethu cael digon o danysgrifwyr i'w argraffu. Efe a'i gadawodd ar ei ol mewn llawysgrif. Yr oedd wedi ei orphen yn 1722. Daeth yn ddamweiniol i feddiant y Parch. John Walters, yr hwn a ddywedai am dano, os cawsai ei gyhoeddi, na fuasai mewn un modd yn diddymu yr angen am ei un ef. Cyhoeddodd Mr. Gambold, yn y flwyddyn 1727, Ramadeg Cymreig tra defnyddiol yn yr iaith Seisonig, o'r hwn y daeth ail argraffiad allan o Gaerfyrddin yn 1817, a thrydydd o'r Bala, 1833, yr hwn oedd wedi ei helaethu. Yr oedd Mr Gambold yn ysgolor da, myfyriwr dyfal, ac yn dra hoff o lenyddiaeth ei wlad. Yr oedd hefyd fel offeiriad a Christion yn meddu cymmeriad uchel Bu farw Medi 13, 1738.

"O ddysg hen Gambold e ddaeth
Llythyreg gall, llithrig, goeth."
DEWI WYN O EIFION.

GRIFFITHS, ALBAN, oedd fab ieuengaf Mr. Thomas Griffiths, Dolau Gwartheg, Dyffryn Aeron; ac efe a hanai o hen deulu parchus yn swydd Benfro. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Golegol y Fenni, ac a urddwyd gan Esgob Llandaf ar guradiaeth Glyn Ebwy, Gwent Uwchgoed. Cafodd ei benodi yn genadwr cartrefol yn yr esgobaeth y cafodd ei urddo. Bu ei Iwyddiant fel cenadwr yn rhyfeddol fawr. Llwyddodd mewn byr amser i gasglu cynnulleidfaoedd, a ffurfio adranau, lle y mae yn awr Eglwysi ac ysgolion wedi eu sefydlu. Cafodd ei aidd a'i ymdrechion eu cario yn rhy bell i'w allu corfforol. Gwanhaodd ei gyfansoddiad cryf, fel y bernid yn angenrheidiol iddo roddi fyny y fath waith a ofynai gymmaint llafur a brwdfrydedd. Derbyniodd guradiaeth Porthmadog. Bu ei weinidogaeth yno, er yn fyr, yn fendithiol iawn. Cyn hir, penododd Esgob Llandaf ef i bersoniaethau unol Llanallgo a Llaneugrad, yn Ynys Mon. Dechreuodd yno dan lawer o anfanteision