Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwangalondid; ond yn fuan, daeth pethau yn obeithiol. Llanwyd yr Eglwysi gweigion gan addolwyr difrifol. Blodeuai ysgolion dyddiol a Sabbothol; ond cyn pen y flwyddyn, yr oedd ei holl waith llafurfawr ar ben. Gorphenodd ei ddyddiau. Bu farw yn y Royal Hotel, Caernarfon, ar ei daith adref i Geredigion. Yr oedd, yn ddiau, yn un o ddynion hynotaf ei oes. Daeth yn fuan ar ol dechreu ei weinidogaeth i roddi y profion mwyaf boddhaol o allu y pulpud. Yr oedd urddiant, eglurdeb, a swyn anwrthwynebol yn ei bregethiad. Dangosodd yn ei gymhwysiadau y fath wybodaeth o weithrediadau y galon ddynol, fel ag i synu ei frodyr henach yn y weinidogaeth. Yr oedd o dymmer heddychol iawn. Er yn Eglwyswr cryf, eto efe a gerid yn fawr gan bawb. Ni fu cymmaint galar ar ol dyn ieuanc nemawr erioed. Y Sul ar ol ei farwolaeth, crybwyllwyd am ei ymadawiad sydyn mewn amryw o'r capeli ymneillduol yn yr ynys. Ymdaenodd cwmwl dudew galar dros y wlad. Bu farw yn y fl. 1862, yn 33 mlwydd oed. Yr oedd yn frawd i Beros, Castell Nedd.

"Y Parchedigr Alban Gruffydd fyddai
Yn fwynaidd ei sain; — o fynydd Sinai
Colledigion i Sïon roesawai
At y Groes, trwy ei fer-oes gyfeiriai;
Angelaidd efengylai; — fry uwch ben,
Ar heinif aden, i'r nef ehedai."
lOAN MYNYW.

GRIFFITHS, GRIFFITH, oedd enedigol o blwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Llanbedr gan yr Hybarch Archddiacon Williams. Urddwyd ef gan Esgob Llundain i fyned yn genadwr i'r India Orllewinol. Cyrhaeddodd Jamaica yn 1825. Cafodd urdd offeiriad gan esgob yr esgobaeth hòno. Bu yn gweinidogaethu ym Marchioneal Bay a Portland; ac ar farwolaeth y periglor, cafodd y fywoliaeth. Bu ei lafur yn llwyddiannus iawn yn y lle, fel yr aeth y gynnulleidfa yn llawer gormod i'r Eglwys, ac adeiladwyd Eglwys newydd. Cafodd fywoliaeth T relawney. Bu yno hefyd yn llwyddiannus ryfeddol: ond yng nghanol ei Iwyddiant, bu farw, Rhagfyr, 1845. Ennillodd barch mawr gan bob gradd.