Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y treuliai y gymdeithas grefyddol hon ei hamser oedd fel y canlyn:— "Codent y bore ar ganiad y ceiliog, a pharhäent mewn gweddïau a myfyrdodau hyd y dydd. Yna wedi cydgyfarfod ac addoli Duw yn gyhoeddus, pob un a âi allan at ei orchwyl; ar ol treulio yr amser gosodedig wrth eu gorchwylion, dychwelent i'r Athrofa, a threulient weddill y dydd mewn gweddïau, darllen, ac ysgrifenu. Yn y prydnawn, cyfarfyddent i addoli Duw, a pharhäent yn yr addoliad hyd dywyll nos; yna swperent yn nghyd ar fara a llysiau. Ar ol swpera, treulient dair awr mewn myfyrdod a gweddi; ac wedi hyny aent i orphwys hyd y bore." Yn y flwyddyn 519, mewn canlyniad i gynnydd Morganiaeth, gwysiodd Dyfrig, yr archesgob, gymanfa er amddiffyn athrawiaethau yr eglwys, yr hon a gynnaliwyd yn Llanddewi Brefi. Daeth gwŷr o'r enwogrwydd mwyaf i'r gymanfa hon, a bu dadl faith rhwng y ddwy blaid, yn yr hon yr ymddangosai pleidwyr Morganiaeth fel yn cael y tir uchaf. Yn y cyfyngder hwn, meddyliodd Pawl Hen am anfon i ymofyn un o'i hen ddysgyblion, sef Dewi, o ddysgeidiaeth a duwioldeb yr hwn y cawsai ddigon o brofion yn flaenorol. Wedi cryn gymhell, eydsyniodd Dewi â'r gwahoddiad; ac wedi dyfod yno, safodd i fyny, a phregethodd gyda'r fath nerth a dylanwad fel y llwyr orthrechodd ei wrthwynebwyr; ac ni chafodd yr Eglwys Gymreig ei blino gymaint ganddynt ar ol hyny. Cymaint oedd y clod ennillodd Dewi iddo ei hun y tro hwn, fel yr etholwyd ef yn unfrydol i'r swydd o archesgob, o'r hon yr ymneillduodd Dyfrig, mewn canlyniad i'w argyhoeddiad o oruwch deilyngdod Dewi. Ni ddarfu i'r dyrchafiad hwn ond ychwanegu ei lafur, a chyflawnodd ddyledswyddau pwysig y sefyllfa mewn modd mor ffyddlawn a chlodfawr, fel, yn ol geiriau un o'i fywgraffwyr, "nad oedd gan genfigen ei hun ddim i'w gyhuddo o'i blegid." Tua'r flwyddyn 529, galwodd Dewi gymanfa arall gyffelyb yn Nghaerlleon ar Wysg, fel yr ymddengys yn ol yr Annales Menevenses, (oblegid yno yr oedd safle yr archesgobaeth). Yr achos o'i galw ydoedd, fod heresi Morgan wedi gwneud ei hymddangosiad drachefn yn yr eglwys; ond cafodd ei dadymchwelyd mor llwyr y tro hwn, fel na flinwyd yr Eglwys Brydeinig ganddi mwyach: a galwyd y cyfarfod hwn yn “Gymanfa Fuddugol." O herwydd fod dinas Caerlleon yn cael ei blino yn fynych y pryd hwnw gan derfysgoedd gwladol, cafodd Dewi ganiatâd gan y brenin Arthur i symud eisteddle yr archesgobaeth i rywle arall mwy tawel a neillduedig. Y dyb gyffredin yw, mai Mynyw, yn sir Benfro, oedd y lle dewisedig hwnw; ond yn ol ysgrifau Iolo, (tudal. 82), dywedir ddarfod i Dewi "symud ei Wyndy o Gaerlleon ar Wysg hyd yn Mynyw Hên, yn Ngheredigion." Os treuliodd Dewi gyfran o'i ddyddiau boreuol yn y lle hwn, fel yr ymddengys iddo wneud, nid yw mewn un modd yn annhebygol iddo ei ddewis fel safle yr archesgobaeth. Ni bu ei harosiad yma, modd bynag, ond byr; oblegid symudwyd hi drachefn i Fynyw,