Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, brawd ei dad, yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Aberhonddu; ac ewythr arall iddo oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog y Bedyddwyr. Gyda'r blaid olaf hon yr ymunodd yntau, a dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1819. Aeth i Athrofa Bradford, lle y treuliodd bedair blynedd. Urddwyd ef yn 1826 yn weinidog yn Portsea; ond ni fu yno yn hir cyn iddo gael ei dueddu i fyned allan yn genadwr i Affrica. Ac felly cychwynodd ef a'i wraig tuag yno, a bu y peryglon yr aethant trwyddynt yn y wlad hòno yn fawr iawn-yn anhygoel braidd. Ni wyddis yr amser y bu farw.

DEIO AB IEUAN DDU, ydoedd fardd genedigol o blwyf Llancynfelyn, ac yn blodeuo rhwng 1460 a 1500. Mae awdl i Foredydd ab Llywelyn o Uwch Aeron o'i eiddo, a chywydd i Ddafydd ab Tomos o Is Aeron, i'w gweled yn Meyrick's Cardiganshire. Y mae y llinell gyntaf o wyth cân ar hugain o'i eiddo yn Ngreal Llundain, am 1807. Canodd hefyd Awdl y Caws, o'r hon y mae amryw gopïau ar gael. Yr achlysur o'i chyfansoddi, meddir, sydd fel y canlyn:-Clywsai ganmoliaeth uchel gan rywun i Madawg, Abad Enlli, am ei haelioni; ac ar hyny, canodd yntau iddo awdl o folawd, a chan logi cwch, cychwynodd un diwrnod tua'r ynys hòno, ar fedr cyflwyno y gân yn bersonol i'r Abad. Ond yn lle y croesawiad a'r moethau a ddysgwyliasai gael, ni roddwyd o'i flaen ond ychydig fara a chaws, a llaeth enwyn; ac felly, yn lle yr awdl o folawd a ddarparasai, efe a ganodd iddo gerdd duchan, dan yr enw, Awdl y Caws.


DEWI SANT. Mae hanes Dewi yn gydweuedig â hanes yr eglwys yn Mhrydain yn y cyfnod hwnw; ond mae ei gysylltiad â Cheredigion yn hawlio iddo ryw faint o sylw oddiwrthym. Mab ydoedd Dewi i Sandde ab Ceredig ab Cunedda, o Non, ferch Gynyr o Gaer Gawch yn Mhenfro, penaeth a berchenogai diriogaeth Pebydiog, lle yn awr y saif Ty Ddewi. Yn ol y Trioedd, Cunedda oedd y cyntaf a roddodd diroedd a breiniau tuag at gynnaliaeth yr eglwys, a darfu i Gynyr wneud yr un peth. Fel hyn, yr oedd Dewi yn disgyn, nid yn unig o deulu urddasol, ond hefyd o rai crefyddol ac enwog am eu duwioldeb. Cafodd ei eni yn Rhos, a alwyd wedi hyny, Mynyw, (Ty Ddewi); a bedyddiwyd ef yn Mhorth Clais, gan Albeus, esgob Munster, yn yr Iwerddon. Dygwyd ef i fyny a derbyniodd egwyddorion cyntaf ei ddysgeidiaeth yn Hen Fynyw (Vetus Rubus), yn sir Aberteifi. Wedi hyny, rhoddwyd ef yn Athrofa Tygwyn ar Daf, o dan ofal y clodwych Pawl Hen, lle y treuliodd ddeng mlynedd yn efrydu yr Ysgrythyrau, ac yn ymbarotoi ar gyfer y weinidogaeth. Wedi gadael y lle hwn, ymneillduodd Dewi i ddyffryn Rhos, ac yno sefydlodd gyfeillach grefyddol; ac yn mysg ei ddysgyblion, yr oedd Teilo a Phadarn -dynion enwog am eu duwioldeb, a sylfaenwyr amryw eglwysi. Y modd