Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

efrog Newydd hyd ei farwolaeth yn 1856, gan adael ar ei ol gymeriad uchel fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Ei oed oedd 42 ml.

DAVIES, WILLIAM, ydoedd enedigol o ardal Penrhiwgaled, Ceredigion, lle y ganwyd ef, Rhagfyr 31, 1792. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, y rhai oeddynt yn dra gofalus i'w "hyfforddio yn mhen ei ffordd." Er fod Mr. Davies yn wrthddrych argraffiadau crefyddol er yn blentyn, er hyny ni wnaeth broffes gyhoeddus o'i ffydd nes oedd tuag 20 oed, pryd yr ymunodd â'r Eglwys Annibynol yn Penrhiwgaled. Y gweinidog yno y pryd hyny ydoedd yr enwog Mr. Evans o'r Drewen, cynghorion a hyfforddiadau yr hwn fuont o fawr gynnorthwy iddo ar ei yrfa grefyddol. Ar y 27ain o Fedi, 1815, efe a dderbyniwyd i Athrofa y Neuaddlwyd; ac yn Rhagfyr, yr un flwyddyn, dechreuodd bregethu. Wedi cyrhaedd gwybodaeth elfenol o'r Groeg a'r Lladin, symudodd oddi. yno i Athrofa Llanfyllin, Gorphenaf 11, 1818. Ar ol gorphen tymmor ei efrydiaeth yno, urddwyd ef yn y fl. 1822, yn weinidog yn Llangollen, o'r lle y symudodd, yn 1826, i Rhydyceisiaid, ac yno y terfynodd ei yrfa. Yn y lle olaf hwn, cadwai Mr. Davies ysgol yn ychwanegol at ei ddyledswyddau gweinidogaethol, yr hon a fwriadai i barotoi gwŷr ieuainc ar gyfer yr Athrofeydd, ac yn hyn bu yn hynod lwyddiannus. Yr oedd Mr. Davies yn ysgolhaig Cymraeg rhagorol, ac ychydig ddeallent yr iaith yn well nag ef. Prif bwnc ei bregethau fyddai croes Crist; ac yr oedd yn dra iach yn y ffydd ar brif athrawiaethau Cristionogaeth. Os nad oedd yn ei bregethau ryw lawer o addurniant a chelfyddyd, yr oeddynt bob amser yn eglur a sylweddol—ei brif amcan fyddai gwneud ei hun yn ddealladwy i'w wrandawyr. Meddai ar galon hynaws a dysyml; yr oedd yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll." Gyda'r eithriad o'r pum' mlynedd diweddaf o'i fywyd, lled wasgedig fu o ran ei amgylchiadau tymmorol, yr hyn a gyfodai oddiwrth y ffaith ei fod yn feddiannol ar fwy o ddiniweidrwydd y golomen nag o gallineb y sarff. Yr oedd yn un o'r dynion tawelaf a llareiddiaf a sangodd ar y ddaear erioed. Bu ei symudiad o'r byd yn golled fawr i'r achos yn y lle, ac yn destun galar i gylch eang o gyfeillion a pherthynasau. Cymerodd hyn le yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn. Bwriadai ef ac Ysgol Sabbathol Rhydyceisiaid fod mewn Cymanfa Ysgolion yn St. Clears y diwrnod hwnw; ond er ei fawr awydd, ni chaniatawyd iddo y fraint-gwysiwyd ef i "gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig." Bu hyn Mehefin 17, 1861. Dywedir i farwolaeth Mr. Davies effeithio yn ddwys ar luaws mawr o'i hen wrandawyr, llawer o ba rai, mewn canlyniad, a ymunasant â'r eglwys yno.


DAVIES, WILLIAM, oedd fab y Parch. David Davies, offeiriad Bangor a Henllan; a brawd i'r Parch. J. P. Davies, Tredegar. Yr oedd ewythr