Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

penderfynodd fyned yn uniongyrchol i Gaerfyrddin i geisio derbyniad i mewn i'r Athrofa. Priodolai efe y cam yma, a gymerodd mor annysgwyliadwy, i argyhoeddiad dwys a dderbyniodd wrth wrando ar ei frawd Dafydd, a chyd-ysgolhaig iddo, yn pregethu am y waith gyntaf yn Llwynrhyd-owen. Ond ymddengys, oddiwrth nodiadau a wnaeth yn ei ddyddlyfr, fod teimladau tra chrefyddol yn ei lywodraethu yn flaenorol, ac yn ddiau ni fu yr addysg grefyddol a dderbyniodd gan ei dad, heb effeithio yn ddaionus arno. Dechreuodd ar ei ysgol gyda'r Parch. David Peter, (yr hwn y pryd hyny a gadwai ysgol Ramadegol mewn cysylltiad â'r Athrofa) ar y trydydd o Ionawr, 1798, a derbyniwyd efi'r Athrofa y mis Awst dilynol. Ar y 19eg o Fai, 1799, dechreuodd ar y gwaith o bregethu. Wedi gorphen ei dymmor colegawl, urddwyd ef yn gyd-weinidog â'i dad, a bu yn hynod gymeradwy a derbyniol yn yr eglwysi hyny. Yr oedd ei dymher fwyn, ei rodiad hardd, ei lais swynol, a'i ddull syml a difrifol o bregethu, yn sicrhau iddo barch a derbyniad cyffredinol. Cynnyddodd yr eglwysi yn fawr o dan ei weinidogaeth, ac yr oedd y cariad a'r serchogrwydd mwyaf yn ffynu rhyngddo ef a phobl ei ofal. Derbyniodd amryw o alwadau oddiwrth eglwysi cyfoethog yn Lloegr i ddyfod i'w bugeilio, ond yr oedd yn anhawdd iawn ganddo dòri y cysylltiad oedd rhyngddo a'i luaws cyfeillion crefyddol yn Ngheredigion. Wedi hir betruso, modd bynag, penderfynodd mai ei ddyledswydd oedd ufuddhau, ac felly ymadawodd â'r Dywysogaeth am Loegr. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Coventry, Medi 9, 1810, fel cydweinidog âg un Mr. Emaus. Ar y 19eg o Fai, 1811, priododd â boneddiges ieuanc o Evesham. O herwydd i ryw anghydfod dòri allan yn y gynnulleidfa, rhoddodd Mr. Davies ei swydd i fyny yno, a phregethodd ei bregeth ymadawol yn Coventry, Mehefin 20fed, 1818. Maes nesaf ei lafur ydoedd Evesham, lle y treuliasai ei ewythr brawd ei dad, sef y Parch. B. Davies, ugain mlynedd fel gweinidog; ac yno hefyd y treuliodd yntau y gweddill o'i fywyd, sef deugain mlynedd, mewn parch ac anrhydedd cyffredinol, 35 o ba rai a dreuliodd fel gweinidog. Cyn, ac wedi ymadael â Chymru, rhoddodd Mr. Davies ran fawr o'i amser i gyfieithu Esboniad Dr. Coke i'r Gymraeg. Yn ystod y pum mlynedd olaf o'i fywyd, o herwydd ei henaint a'i lesgedd, rhoddodd heibio ei ddyledswyddau cyhoeddus. Bu farw ar yr 28ain o Dachwedd, 1860, ar ol dihoeni mewn cystudd am tua hanner blwyddyn; a hebryngwyd ei ran farwol i dŷ ei hir gartref gan dorf o wŷr parchus o'r dref a'r gymydogaeth. Ei oed oedd 81 mlwydd.

DAVIES, T. L., oedd enedigol o Aberdeuddwr, yn sir Aberteifi. Bu am dymmor yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Victoria, sir Fynwy, ac wedi hyny yn Nghaersalem Newydd, ger Abertawe. Ymfudodd i'r America yn haf y flwyddyn 1848, a bu yn weinidog eglwys yn Nghaer