Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned i'r weinidogaeth yn mysg yr Undodiaid, gyda pha rai yr oedd yn aelod dichlynaidd. Ac i'r dyben hyny, aeth i Goleg Caerfyrddin, ac aeth trwy ei arholiad cyntaf yn llwyddiannus yno; ond ymaflodd y dyfrglwyf ynddo, a gorfodwyd ef i roddi i fyny ei efrydiaeth. Bu farw Ionawr 8, 1833, yn 25 ml. oed. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r diweddar Daniel Ddu, gyda'r hwn y treuliai lawer o'i amser; a choleddai y bardd enwog hwnw feddyliau uchel iawn am dano, a gwelir englynion o'i eiddo ar ei farwolaeth yn Ngwinllan y Bardd.

DAVIES, RICHARD, oedd weinidog Eglwys Penbryn yn amser Siarl 11., o ba un y trowyd ef allan mewn canlyniad i roi mewn grym Ddeddf yr Unffurfiad, yn y flwyddyn 1662; ond efe a gydffurfiodd wedi hyny.


DAVIES, RICHARD, ydoedd weinidog enwog yn mysg yr Anghydffurfwyr, tua diwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg. Ganwyd ef yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1659. Ei wraig ydoedd ferch i un Henry Williams o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd, yr hwn oedd yn Anghydffurfiwr selog yn amser Siarl II.; ac mewn canlyniad, dyoddefodd erledigaethau chwerwon. Sefydlodd ei fab-yn-nghyfraith hwn yn Lloegr, a bu yn bugeilio yr eglwys yn Rowell, sir Northampton, am 25 o flynyddoedd, sef hyd derfyn ei oes, yn 1714. Yr oedd yn bregethwr tanbaid a gwresog anghyffredin—yn llawn o'r un ysbryd a'r diwygwyr Whitfield a Wesley, a godasant i fyny flynyddau ar ei ol. Cyhoeddwyd o'i waith ef-"Faith, the Grand Evidence of our interest in Christ, or the nature of faith and salvation opened, from John vi. 40. By Richard Davies, of Rowell, in Northamptonshire. London, 1704." Cyhoeddodd hefyd Farwnad i'w dad-yn-nghyfraith.


DAVIES, RODERICK, a fwriwyd allan o Lanllwch-haiarn trwy Ddeddf yr Unffurfiad, ond efe a gydffurfiodd eilwaith.


DAVIES, TIMOTHY, oedd fab y Parch. D. Davies, Castell-hywel, a ganwyd ef yn y Plas Bach, Ciliau Aeron, Tachwedd 20fed, 1779. Symudodd ei rieni pan oedd ef tua phedair oed, i Gastell-hywel, ae yn yr ysgol hòno, o dan addysg ei dad, y treuliodd efe dair blynedd ar ddeg yn astudio y clasuron, a hyny gydag ymroddiad a llwyddiant mawr. Gorfodwyd ef wedi hyny i roi yr ysgol i fyny er mwyn cymeryd gofal o'r fferm oedd gan ei dad. Ond er i Timothy roddi yr ysgol heibio ni adawai mewn un modd ei efrydiaeth ar ol, oblegid cymaint oedd ei syched am wybodaeth fel y myfyriai yn ddiwyd ar ol i lafur a lludded y dydd fyned drosodd, a chadwai yn mlaen gyda y rhai hyny ag oeddynt yn myfyrio yn rheolaidd yn yr ysgol. Pan tua 19 oed, cyfododd awydd disymwth yn ei feddwl am fyned i'r weinidogaeth, ac i'r dyben o gymhwyso ei hunan at y gwaith,