Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn gadben, a gwasanaethodd dan Dug Efrog, yn Holland; a chymerodd ran yn mrwydrau Bergen, y flwyddyn hono. Gwasanaethodd wedi hyny ar dueddau Ffrainc; a chyda Syr J. Pulteney, yn Ferrol, a dwy waith i fyny yn Môr y Canoldir: Yn 1804, prynodd y swydd o uchgadben y 36 gatrawd. Bu yn gwasanaethu wedi hyny yn Holland ac yn Penrhyn Gobaith Da, a gorfodwyd ef gan afiechyd i ddychwelyd o'r lle olaf. Cymerodd ran eilwaith yn mrwydrau Brillos, Rolica, a Vimiera, yn yr Orynys, o dan Syr Arthur Wellesley; ac yr oedd gyda Syr John Moore yn mrwydrau Lugo a Corunna. Yr oedd yn bresenol yn ngwarchaead Flushing, a chymeriad ynys Walcheren. Ionawr 7, 1812, dyrchafwyd ef yn rhagfilwriad y 36 gatrawd; a chyda'r gatrawd hòno, cymerodd ran arbenig yn ngwarchaead Salamanca, lle yr enwogodd ei hunan yn fawr. Yn y frwydr boeth a ymladdwyd yno wedi hyny, llywyddai y dosbarth isaf yn y 36 gatrawd, am yr hyn y derbyniodd fathodyn. Yr oedd yn y gwarchae ar Burgos, ac wrth ddychwelyd oddiyno i Portugal, ymaflodd y crydcymalau mor llym yndde, fel y llwyr analluogwyd ef o hyny allan i wasanaeth cyhoeddus. Yn Medi, 1806, gwnaed ef yn Gydymaith o Anrhydeddus Urdd Milwrol Caerbaddon; ac yn fuan cyrhaeddodd y gradd o Uwch-Faeslywydd. Treuliodd y gweddill o'i oes yn Tanybwlch, ger Aberystwyth, lle bu farw, Mai 10, 1828, yn 51 ml. oed. Perchid ef yn gyffredinol, ar gyfrif ei garedigrwydd ac uniondeb ei ymddygiad. Yr oedd yn briod â Jane, ail ferch Mathew Davies, Ysw., Cwmcynfelyn, o'r hon y cafodd dri mab a merch.

DAVIES, REES, oedd aelod o Eglwys y Bedyddwyr yn y Coedgleision, yn agos i Lanbedr, lle hefyd yr oedd ei rieni yn aelodau. Yr oedd y Parch. David Davies, Castell-hywel, yn ewythr iddo, a chydag ef y derbyniodd elfenau cyntaf ei ddysgeidiaeth. Symudodd oddiyno eilwaith i Athrofa y Fenni; ac wedi gorphen ei dymmor yno, urddwyd ef yn weinidog ar eglwys yn Nghaerwent. Bu wedi hyny am beth amser yn genadwr yn sir Henffordd. Sefydlodd eilwaith yn nhref Mynwy; ond o herwydd tlodi yr eglwys yno, gorfyddwyd efi fyned drosodd i'r America, lle y bu farw mewn amgylchiadau cysurus. Ystyrid ef yn meddu dysgeidiaeth helaeth, ac yn bregethwr sylweddol.


DAVIES, REUBEN, a adnabyddid wrth yr enw barddonol, Prydydd y Coed, oedd enedigol o Tan yr Allt, Cribyn, Ceredigion. Mae yr hyn a gyfansoddodd yn profi yn ddiymwad ei fod yn feddiannol ar alluoedd awenyddol o'r fath uwchaf. Yr oedd yn awdwr lluaws o emynau rhagorol, y rhai sydd yn dangos y gallasai gyrhaedd enwogrwydd mawr, pe cawsai iechyd a hir oes. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a bu am dymmor yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau gyda llawer iawn o lwyddiant. Bwriadai