Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1808, aeth trwy yr Ysbyttai fel efrydydd Bydwreigiaeth; pasiwyd ef yn Hospital Mate, a phenodwyd ef i ymuno â'r fyddin: ac felly aeth ar fwrdd agerlong yn ynys Walcheren. Ond ni fu iddo orfyw ei ddyrchafiad ond ychydig amser--daeth adref wedi anmharu ei iechyd, a bu farw yn y Llwyn, sir Aberteifi, Hydref 27, 1810, yn 23 oed.

DAVIES, JOHN LLOYD, Ysw., a fu am beth amser yn A.S. dros fwrdeisdrefi Ceredigion, sydd yn un esiampl etto o'r hyn y gellir ei gyrhaedd mewn amser gyda diwydrwydd, ymroddiad, a phenderfyniad, yn enwedig os bydd galluoedd meddyliol cryfion yn cydfyned â hwy. Ganwyd Mr. Davies mewn tafarndy bychan, sef y Black Lion, yn nhref Aberystwyth, lle y bu ei rieni am beth amser yn byw. Yn ei ddyddiau boreuol, arferai yru post chaise yn y dref; a chyflawnai orchwylion cyffredin eraill, y rhai ni fyddai cywilydd ganddo eu harddel mewn amser wedi hyny. Yna aeth i Gastellnewydd Emlyn, yn ysgrifenydd at gyfreithiwr cyfrifol. Yn mhen enyd o amser, priododd Mrs. Lloyd, gweddw Mr. Lloyd, Gallt yr Odyn, o'r hon y bu iddo un mab, yr hwn a fu farw yn Llundain tra yn dilyn ei efrydiaeth o'r gyfraith. Yr oedd Mr. Lloyd Davies yn ddyn o synwyr naturiol cryf iawn, yn meddu ar wybodaeth eang, ac yn ymadr oddwr hyawdl; ac felly, penodwyd ef yn fuan wedi hyny yn ynad yr heddwch dros sir Gaerfyrddin yn gystal a Cheredigion. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn y gyfraith, yr hon a efrydodd yn ddiwyd. Bu am dymmor yn cynnrychioli bwrdeisdrefi Ceredigion yn y Senedd; ac nid gormod yw dweyd ei fod yn un o'r aelodau goreu a anfonwyd erioed o Geredigion i Neuadd St. Stephan. Cymerai y dyddordeb mwyaf yno yn wastad yn mhob peth a ddygai berthynas â Chymru, ac yn enwedig â'i sir ei hun; a gwyliai gyda'r dyfalwch mwyaf dros ei hiawnderau a'i manteision. Traddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl a glywyd gan un o gynnrychiolwyr Cymru erioed, pan yn dwyn yn mlaen y cynnygiad o wneud Aberteifi yn borthladd diogelwch. Ymdrechodd hefyd yn fawr dros gael y reilffordd o Gaerfyrddin i Landyssul. Ceidwadwr selog ydoedd o ran ei olygiadau gwleidyddol. Bu farw yn ddisymwth yn nechreu 1860. Ei oed oedd 59 mlwydd.


DAVIES, LEWIS, oedd fab i John Davies, Ysw., o'r Crygie, yn mhlwyf Llanbadarn Fawr, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei frawd, John Maurice Davies, yn gadben yn y fyddin ar y 31 gatrawd; ac ymunodd yntau â hi fel banerwr, pan yn bedairarddeg oed. Yr oedd yn bresenol pan gymerwyd St. Lucia, yn yr India Orllewinol, yn 1796, gan Syr Ralph Abercrombie, a'r pryd y gwnaed ef yn rhaglaw. Yn ystod ei arhosiad yno, dyoddefodd lawer oddiwrth y cryd melyn; ac analluogwyd ef i ddilyn y fyddin am ddeuddeng mis. Yn 1799, dyrchafwyd ef i