Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy y Gogledd, ac ymwelodd â sir Fflint, lle y bu yn llwyddiannus neillduol -casglodd yn nghyd gynnulleidfa fechan yn Nhreffynnon, ar yr hon yr urddwyd ef yn weinidog. Hon oedd yr eglwys gyntaf a ffurfiwyd gan y Bedyddwyr yn y sir hòno. Symudodd oddiyno yn lled fuan i Lynlleifiad, ac oddiyno drachefn i Gaerludd. Ond gan ei fod mor awyddus i fod o wasanaeth i'w gydgenedl, dychwelodd yn ol i Gymru; a bu yn gweinidogaethu yn olynol yn Glanyferi a Chydweli, ac yn ddiweddaf yn Nhredegar, lle y gorphenodd ei yrfa, Awst 23, 1832, yn 46 oed. Bu trwy ei ymdrechion diflino yn offeryn i sefydlu eglwysi yn Rumni, Penycae, Sirhowi, a Glan Ebwy. Fel pregethwr, yr oedd Mr. Davies yn dra phoblogaidd a chymeradwy; ac fel gweddïwr, yr oedd yn nodedig iawn. Byddai ei nodiadau eglurhaol ar ranau cyntaf ei bregeth yn neillduol briodol ac addysgiadol, ac amlygent wybodaeth eang a chyffredinol. Yr oedd ei ddull o draddodi yn hyawdl ac yn hollol naturiol, a meddai berffaith reolaeth ar ei lais. Diweddai ei bregeth bob amser yn dra disymwth, pan y byddai y gwrandawyr yn llawn bywiogrwydd ac yn orawyddus i dderbyn ychwaneg, gan eu gadael i raddau yn siomedig, am na pharhasai ychydig yn hwy. Yr oedd y swyn oedd yn ei weinidogaeth, a'r dylanwad oedd yn cydfyned â hi yn fynych, bron yn annysgrifiadwy. Fel ysgrif enydd ac awdwr, mae i Mr. Davies le nid anenwog yn mysg llenorion ei wlad. I'r ieithoedd Cymraeg a Saesonaeg yr ymddengys iddo dalu fwyaf o sylw; a thrwy astudiaeth ddyfal, daeth yn dra hyddysg yn y flaenaf. Fel cadarnhad o hyn nid oes angen gwell prawf na'i araeth arni yn Seren Gomer, yn y flwyddyn 1825, a'i amddiffyniad iddi yn 1826. Ymddengys mai y Dr. W. O. Pughe a ddilynai fel cyfarwyddyd yn ei efrydiaeth o'r iaith. Bwriadai ddwyn allan Eiriadur Cymraeg oll, fel y gwelir oddiwrth ei gynllun o'r cyfryw yn y Seren, yn 1824. Ysgrifenodd oddeutu ugain llen o hono; ond pa beth ddaeth o'r llawysgrif ar ol ei farwolaeth nid yw yn hysbys. Cyhoeddwyd cyfrol, gwerth pum' swllt, o'i weithiau duwinyddol. Fel dyn, yr oedd ei wynebpryd yn dra siriol a hawddgar, ei drwyn yn eryraidd, a'i lygaid yn llawn bywiogrwydd. Pan y codai yn y pulpud i ddechreu yr addoliad, nid ymddangosai ynddo ryw lawer a dueddai i beri i'r gwrandawyr ddysgwyl dim anghyffredin oddiwrtho.

Davies, John, ydoedd fab i'r hyglod ysgolhaig, y Parch. D. Davies, Castell-hywel, lle y ganwyd ef, Mehefin 5ed, 1787. Derbyniodd elfenau ei ddysgeidiaeth gan ei frawd, y Parch. D. Davies, Castellnewydd Emlyn. Dysgodd rifyddiaeth wedi hyny gydag un Mr. Parry, yn Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1804, rhwymwyd ef yn egwyddor-was meddygol gyda Mr. Morgan, Ddolgoch, ger y dref hòno; ac wedi hyny bu gyda llawfeddyg enwog o'r enw Williams, yn Nghaerfyrddin. Wedi hyny, yn