Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anfynych yn cynhyrfu y teimladau; etto, yr oedd ei bregethau yn un gadwyn fawr o feddylddrychau wedi ei goreuro â phur air Duw.”

DAVIES, JOHN, Daventry, ydoedd weinidog defnyddiol gyda'r Annibynwyr; a ganwyd ef mewn pentref bychan ger Aberystwyth. Symudodd ei rieni i fyw i Woolwich, tra yr ydoedd ef yn bur ieuanc. Ymddengys iddo dderbyn argraffiadau crefyddol dyfnion a pharhaus o dan weinidogaeth y Parch, Dr. Jones, Bangor; ac ymunodd â'r eglwys tra nad oedd etto ond tua phedairarddeg oed. Aeth yn fuan wedi hyny i Goleg Llanfyllin, yr hwn oedd y pryd hyny dan ofal y Dr. Lewis. Bu yn athraw wedi hyny am ryw ychydig amser i blant un George, Ysw., yn sir Gaerfyrddin. Derbyniodd alwad gan Eglwys Deptford i ddyfod i'w bugeilio, â'r hyn y cydsyniodd, a bu yno bedair blynedd. Yn Hydref, 1826, cafodd annogaeth i fyned oddiyno i Daventry, lle yr arhosodd i weinidogaethu gyda graddau mawr o lwyddiant hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd Mr. Davies yn bregethwr o safle uchel iawn, ac yn meddu galluoedd areithyddol anghyffredin. Yr oedd yn dduwinydd rhagorol, yn ysgolhaig clasurol gwych, ac yn feddiannol ar stôr helaeth o wybodaeth gyffredinol. Yn ei ddull o draddodi y gwirionedd, yr oedd yn rymus a dylanwadol— ergydiai yn uniongyrchol at y galon, a hyny, yn gyffredin, gyda llwyddiant mawr. Gydag ef yr oedd crefydd a duwioldeb yn bethau gwirioneddol, a gwelid hwy yn dysgleirio yn danbaid yn mhob gogwyddiad a gweithred o'i eiddo. Perchid ef yn fawr gan gylch eang ei gyfeillion, o herwydd diffuantrwydd a serchogrwydd ei galon; yn neillduol felly gan yr ieuenctyd, ar y rhai yr oedd ganddo ddylanwad anarferol. Pregethai i'r rhai hyn unwaith bob blwyddyn; ac ar y pedwerydd o Ionawr, 1857, traddododd y gwirionedd am y tro olaf i'w clywedigaeth, wedi gwneud hyny yn gyson am un mlynedd ar ddeg ar hugain. Yr oedd ei iechyd wedi dechreu dadfeilio er's blwyddyn neu ddwy; ond ymadferodd ychydig yn ngwanwyn y flwyddyn uchod. Ni fu hyny, modd bynag, ond o fyr barhad; ac er pob ymdrech o eiddo ei gyfeillion, suddodd yn raddol, a bu farw y mis Mai dilynol. Yr wythnos olaf o'i fywyd, ymwelwyd ag ef gan ei hen gyfaill a'i dad yn yr efengyl, y Dr. Jones, Bangor, yr hwn a bregethodd yn ei gapel y Sabbath olaf iddo ef ar y ddaear.


DAVIES, J. P., ydoedd fab i'r Parch. D. Davies, offeiriad Bangor a Henllan; a ganwyd ef yn y lle blaenaf, Mawrth 12fed, 1786. Yr oedd ewythr iddo, brawd ei dad, yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Aberhonddu; ac yr oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, hefyd yn ewythr iddo. Gyda'r blaid olaf y bwriodd ef ei goelbren, ac ymunodd â hwynt yn y Drefach. Yn fuan ar ol ei dderbyn, tueddwyd ef at waith y weinidogaeth. Cyn pen hir, cymerodd daith