Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wnaeth chwaith nes oedd yn llawn 28ain oed. Yn mlynyddau cyntaf ei weinidogaeth, yr oedd yntau, fel llawer o'i gydlafurwyr, dan lawer o anfanteision wrth geisio cyflawni ei swydd, gan ei fod yn cael ei rwystro gan negeseuau y bywyd hwn. Gweithiai yn galed ar hyd y dydd ar ei fferm, a'r unig amser a allai ei hebgor i ddarllen a myfyrio oedd y nos. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y fl. 1833, ac wedi hyny, ymgysegrodd yn fwy llwyr i waith y weinidogaeth. Ar ol marwolaeth y Parch. E. Morris, yn 1825, daeth gofal yr eglwysi cymydogaethol bron yn llwyr ar Jenkin Davies; ac ni fu yntau mewn un modd yn anffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo. Hyn fu'r prif achos iddo symud, yn mhen rhai blynyddoedd, o Bensarn i'r Twrgwyn i fyw. Yr oedd gofalon bydol a phryder teuluaidd yn peri llawer o anhwylusdod iddo yn ei yrfa weinidogaethol. Yr oedd ei deulu erbyn hyn yn lluosog, a'r plant yn ieuainc, ac yn sefyll mewn mawr angen am ddysgeidiaeth, yr hyn oedd bron allan o'r cwestiwn iddynt byth ddysgwyl ei gael, tra y cedwid hwy i gynnorthwyo eu tad yn ngwaith y fferm. Wedi ei lwyr argyhoeddi nas gallasai pethau fyned yn mlaen fel hyn yn hwylus, gwelai nad oedd yr un feddyginiaeth yn ymgynnyg ond rhoddi heibio naill ai y pregethu neu y ffermio. Yn y cyfyng-gynghor yma, gosododd y peth at farn ei wraig, yr hon a'i hatebodd, "Na roddwch heibio y pregethu er dim, rhag i chwi, wrth hyny, ddigio yr Arglwydd. Hwyrach y gwna yr eglwys ystyried a gwrando ein cŵyn." Wedi cael yr un annogaethau drachefn gan ei gyfeillion, yn nghyda thystiolaeth ei gydwybod ei hun fod a fynai yr Arglwydd âg ef fel cenad at ei waith, daeth i'r penderfyniad o roddi i fyny y fferm, ac ymgysegru yn llwyr i wasanaeth ei Arglwydd, gan ymddiried i haelioni yr eglwysi, ond yn benaf i'w Feistr nefol, am foddion ei gynnaliaeth ef ei hun a'i deulu. Ac felly, yn Mihangel, 1838, ymryddhaodd oddiwrth ei orchwylion bydol, a symudodd gyda'i deulu, ar ddymuniad taer trigolion Twrgwyn a Salem, i fyw i'r ardal hono, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes yn ddefnyddiol iawn. Ni fu, modd bynag, byw ond ryw bedair blynedd ar ol ei symudiad; oblegid yn nechreu y flwyddyn 1842, dadfeiliodd ei iechyd i gryn raddau. Ond er y pregethai er hyny yn achlysurol, ni theimlodd yn iach byth mwy; ond prysurwyd ei ddiwedd gan lucheden, yr hon a'i cymerodd ymaith, Awst 10fed, o'r fl. hòno. Yr oedd ei lafur yn mlynyddau olaf ei fywyd, ar ol ymgysegru yn gyflawn i'r weinidogaeth, yn fawr iawn. Teithiai Dde a Gogledd, gan ymweled yn achlysurol â threfydd Lloegr, gan bregethu y gair yn ddiwyd "mewn amser ac allan o amser." Dywedir iddo bregethu 315 o weithiau yn ystod y flwyddyn 1840, a 400 o weithiau yn y flwyddyn 1841. "Prif ragoriaethau ei bregethau ydoedd sylweddolrwydd eu materion, a thlysni eu cyfansoddiad. Ac er nad oedd yn ei ymddangosiad ddim i dynu sylw y gwrandawyr, ac er nad oedd ei lais ond gwanaidd, ac ond