Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glyn Cothi i Syr Thomas ab Syr Rosser Fychan o Dreytwr. Cyfieithodd chwech neu saith o lyfrau defnyddiol o'r Saesonaeg i'r Gymraeg: yn mysg pa rai, y mae Meddyliau Dirgelaidd Beveridge, 1717; a Thyred a Groesaw, gan Bunyan, 1719. Darlunir ei nodwedd gan ei gyfaill a'i gymydog, Christmas Samuel, gweinidog Pantteg, fel y canlyn:-"Lago ab Dewi, y cyfieithydd enwog, a fu farw ar ol deunaw wythnos o gystudd, a chladdwyd ef yn Llanllawddog, ar y 27ain o Fedi, 1722. Yr oedd yn ddyn nodedig iawn; yn ddyn o ychydig eiriau, ond o wybodaeth dra helaeth; yn ddyn o fuchedd dda, ac yn hen Gristion profedig. Nid oes rhaid i mi ddweyd ychwaneg am dano-ei weithredoedd a'i canmolant yn y pyrth."

DAVIES, JAMES, oedd weinidog Eglwysi Annibynol Abermeurig a Chiliau Aeron, ar ol marwolaeth yr hybarch Phillip Pugh; ac mae yn debyg ei fod yn enedigol o'r gymydogaeth hòno. Urddwyd ef yn 1743, a chydweinidogaethai yn y Cilgwyn ac Abermeurig gyda Mr. Pugh, hyd farwolaeth y gwr hwnw. Bu am dymmor yn Pencader, yn cydlafurio â'r gweinidog yno, sef Mr. John Lewis. Dychwelodd drachefn i ardal Abermeurig, a bu farw yn Plas, Cilcenin, yn lled fuan wedi hyny. Yr oedd yn dad i Mr. Evan Davies, Llanedi; a Mr. Daniel Davies, a fu gynt yn weinidog yn Ynysgau, yn Merthyr Tydfil.


DAVIES, JENKIN, Twrgwyn, oedd bregethwr enwog yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd, a ganwyd ef yn Penysarn, yn y flwyddyn 1797. Cafodd y fraint o'i ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol iawn. Yr oedd ei fam yn hynod am ei duwioldeb, a'i dad yn ddiacon parchus yn y cyfundeb. Ymddangosai yn Jenkin Davies ragoriaethau neillduol yn dra ieuanc, yn gymaint felly, fel ag i dynu sylw pawb a'i hadwaenai. Gofynai y Parch. Ebenezer Morris i'w rieni yn fynych, oddiar ryw hynodrwydd a ganfyddai ynddo, "Beth fydd y bachgenyn hwn, debygech chwi?" Cafodd fanteision addysg yn foreu, y cyfryw ag na fwynheid ond gan ychydig iawn yn yr oes hòno. Anfonwyd ef yn gyntaf i ysgol a gedwid yn Llwyn Dafydd; wedi hyny i Aberteifi, ac yna i'r Cei Newydd. Yr oedd ei syched am wybodaeth yn fawr iawn-arhosai ar ei draed yn fynych trwy y nos i astudio. Y Beibl oedd prif wrthddrych ei efrydiaeth, a thrwy ei ddarlleniad cyson o hono, yn nghyda'i gof cryf, daeth yn hyddysg neillduol yn ei gynnwysiad. Gwnelai ddefnydd mynych eilwaith yn ei bregethau o ymadroddion a chyffelybiaethau yr Ysgrythyr. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn 16 ml. oed, ac yr oedd y pryd hyny yn llafurio yn ffyddlon iawn gyda'r Ysgol Sabbathol. Annogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu, ond yr oedd yn bur hwyrfrydig i ddechreu ar y gwaith pwysig hwnw, gan y teimlai yn barhaus ei annigonolrwydd ei hun at y gorchwyl; ac ni