Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael ei ystyried yn ysgolhaig rhagorol. Bu yntau ei hunan wedi hyny yn cadw ysgol yn Mhenmorfa a manau eraill gyda gryn lawer o lwyddiant. Yr oedd, er yn fachgenyn, yn hyddysg iawn yn nghynnwysiad y Llyfr dwyfol, ac wedi dysgu rhanau helaeth o hono ar ei gof; ond yr oedd hyd yn hyn yn hollol ddyeithr i awdurdod y gwirionedd ar ei feddwl, nes y cyrhaeddodd ei unfed flwyddyn ar hugain, pryd yr argyhoeddwyd ef, ac yr ymunodd â'r Methodistiaid yn y Cei Newydd. Gwelwyd ynddo yn fuan gymhwysderau at y gwaith o bregethu; ond er derbyn cymhelliadau parhaus i ddechreu, ni theimlodd ei hun yn rhydd am rai blynyddau i anturio yn mlaen yn gyhoeddus, sef hyd y flwyddyn 1831. Yr oedd y pryd hyn newydd symud o ardal y Cei Newydd i Benmorfa, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Y bregeth gyntaf, mae'n debyg, o'i eiddo a draddodwyd yn Blaenanerch; a bendithiwyd ei weinidogaeth mewn modd neillduol, fel y daeth unarbymtheg i ymofyn lle yn yr eglwys yno. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1841. Nid oedd Mr. Davies yn un o'r pregethwyr hyny a ystyrir yn boblogaidd, ac yr oedd ei ddull o draddodi yn hollol dawel a digyffro. Ei amcan mawr yn ei holl bregethau oedd, cael y gwirionedd i'r meddwl, a hyny trwy guro wrth borth y deall. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a gwelid hyny yn amlwg yn ei holl bregethau. Hunodd yn dawel yn yr Iesu, Ebrill 14, 1853, ar ol cystudd maith a blin.

DAVIES, JAMES, (Iago ab Dewi), a anwyd yn Llandyssul, yn y flwyddyn 1648; a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Pencader. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Eglwys Annibynol yno o dan weinidogaeth yr enwog Stephen Hughes. Yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth tra eang, ac yn fardd a chyfieithydd rhagorol. Cyhoeddwyd amryw ddarnau o'i waith o bryd i bryd, ac mae amryw lawysgrifau yn aros etto ar ei ol. Yn mysg eraill, ysgrif-lyfr yn dwyn y dyddiad 1716-17; ond nid yw ei ddechreu na'i ddiwedd ar gael. Ymddengys mai cyfieithiad ydyw un o'r traethodau sydd ynddo, a'i fod wedi ei fwriadu i gael ei argraffu yn yr Amwythig, gan Shôn Rhydderch. Y mae ynddo un traethawd dammegol am y chwil, yr eryr, y llew, y cadnaw, y fran, y ddafad, a'r llygoden, wedi ei ysgrifenu mewn dull hynod ddyddorol ac addysgiadol. Y dyddiad wrth hwn ydyw, Mai 24, 1711; ac ysgrifenwyd ef o blwyf Llanllawddog, lle y treuliodd y bardd y gweddill o'i oes. Y mae traethawd arall ynddo, i'r hwn y mae Shôn Rhydderch wedi ysgrifenu rhagymadrodd wedi ei ddyddio Medi 23, 1717. Y mae un tudalen hefyd wedi ei ysgrifenu gan Shôn Rhydderch, a'r teitl sydd uwch ei ben ydyw, Ymddyddan rhwng Cardotyn a Difinydd. Ar ran wen o dudalen sydd yn nghanol y llyfr, y mae llythyr etto gan Shôn Rhydderch, yr argraffydd, fel pe byddai yn dychwelyd y llawysgrif kon, gan ddymuno cael un arall. Ceir yma hefyd awdl o waith Lewis